Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cilybebyll

Vaughan Roderick | 11:36, Dydd Gwener, 16 Medi 2011

Fel bron pawb arall yng Nghymru mae'n meddyliau ni yma yn y Bae gyda'r rheiny yng Nghilybebyll gan ryfeddu efallai ein bod yn gorfod blasu o'r cwpan chwerw hwn yn yr unfed ganrif ar hugain.

Efallai bod rhai wedi synnu i ddarganfod bod gan Gymru ddiwydiant glo o gwbwl gan gofio'r sylw a roddwyd i gau'r Twr y pwll dwfn olaf. Fe ddaeth oes y pyllau i ben ar rostir Hirwaun ond mae 'na bedwar glofa'n dal i weithio un yn Nhorfaen ac Aberpergwm, Unity a Gleision yng Nghastell Nedd Port Talbot. Rhyngddyn nhw maen nhw'n cyflogi ychydig dros bedwar cant o ddynion.

Cyn y Streic fawr roedd 'na ryw ddwy fil ar hugain o lowyr yn gweithio ym maes glo'r de. Pan oedd y diwydiant ar ei anterth yn 1913 roedd 230,000 yn cael eu cyflogi. Mae'n ffigyrau noeth hynny'n dweud y cyfan ynghylch y rheswm am dlodi cymharol Cymru.

Rhai dyddiau cyn damwain Cilybebyll roedd David Melding ar Good Morning Wales yn dadlau dros annibyniaeth i'r Blaid Geidwadol Gymreig a newid ei henw. Un o ddadleuon David oedd y byddai plaid o'r fath, pe bai'n bodoli ar y pryd, wedi gallu dadlau yn erbyn y dinistr a ddaeth i'r diwydiant glo ar ôl y streic a dros broses hir o ddad-gomisynu pyllau dros gyfnod o ddegwadau fel y digwyddodd ynn Ngorllewin yr Almaen.

Roedd rhai yn dadlau'r achos hwnnw ar y pryd. Barn Cyfarwyddwr y Maes Glo - ac yn ddiweddarch cadeiydd cwmni Tower, Phillip Weekes, oedd bod angen cau oddeutu hanner y ddau ar hugain o lofeydd oedd yn bodoli ar ddechau'r streic er mwyn creu diwydiant cynaladwy. Does dim dwywaith bod pyllau llawer may addawol ac effeithlon na'r Twr wedi eu cau a hwnnw mewn modd oedd yn ymddangos ar adegau yn faleisus bron.

Mae dwy enghraifft o'r malais hwnnw'n aros yn y cof. Yn achos pwll y Marine yng Nglyn Ebwy cafwyd seremoni fawr i ddathlu cychwyn system gloddio newydd oedd wedi ei chomisiynu ar gost o filiynau o bunnau. O fewn byr o dro cyhoeddwyd bod y pwll i gau. Seliwyd y siafft gan adael yr holl offer drudfawr i rydu dan ddaear.

Pan gaewyd Aberpergwm dymchwelyd pob un adeilad ar wyneb y gwaith - yr ystafelloedd newid, y swyddfeydd, yr olchfa - popeth a hynny am ddim rheswm o gwbwl. Pan ail-agorwyd y gwaith gan lowyr lleol rhai blynyddoedd yn ddiweddarach roedd yn rhaid gweithio o gytiau pren a chabannau dros dro.

Beth bynnag ddigwyddodd i'r diwydiant yn yr wythdegau a beth bynnag yw ei gyflwr yn awr - un peth sy'n ddigyfnewid. Mae torri glo o grombil y ddaear wastad wedi bod yn fusnes caled a pheryglus. Mae Cilybebyll yn ein hatgoffa o hynny gan awgrymu efallai na ddylem alaru gormod am dranc y diwydiant glo nac hiraethu gormod am yr hen ffordd Gymreig o fyw.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.