Help / Cymorth

Archifau Rhagfyr 2012

Dathlu 10 mlynedd o C2

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 14:08, Dydd Llun, 3 Rhagfyr 2012

Sylwadau (1)

Dros y blynyddoedd, mae'r amryddawn Gareth Potter wedi cyfrannu mewn amrywiaeth o ffyrdd i'r sîn gerddorol yng Nghymru, trwy gyflwyno, DJo, ysgrifennu, a chwarae mewn sawl band (Ty Gwydr, Clustiau Cŵn, Traddodiad Ofnus). I nodi'r deng mlynedd ers sefydlu C2 ym mis Rhagfyr 2002, mae Gareth wedi ysgrifennu darn am beth mae C2 yn ei olygu iddo...

Amser maith yn ôl rhywbryd yn y 1970au, fe ddechreuodd bachgen ifanc o gymoedd y De Ddwyrain gymryd diddordeb mewn cerddoriaeth pop. Roedd Marc Bolan yn marchogaeth alarch wen, roedd Abba yn gorfoleddu am eu Waterloo ac roedd 'na Osmonds bach ymhobman. Roedd y chwedegau drosodd, doedd punk heb ddigwydd ac er y streics a bomiau'r IRA, roedd yn fyd o liw, diolch i Top of the Pops a Radio 1, oedd yn cael ei chwarae gan y gyrrwr ar y bws i Ysgol Ifor Bach yn Senghennydd.

Roedd mynd i'r ysgol Gymraeg yn y dyddiau yna yn rhywbeth breintiedig ac anhrydeddus. Roedd pob un disgybl yn ddraig bach oedd yn mynd i fywiogi y Gymru newydd. Roedden ni'n fahanol, yn sbesial; y rhan fwyaf ohonom, fel fi, yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Fe ddarllenom ni am Sali Mali, am y tŷ oedd ar y comin ac am anturiaethau'r Llewod. Fe gystadlon ni mewn eisteddfodau gan adrodd am lwynogod a wiwerod. Fe ganon ni am glywed tyner lais ac am ein calonnau glân. Ond er hyn i gyd, wnaeth neb ein argyhoeddi ni fod yna sîn bop i gael.

Wedyn, un prynhawn fe newidodd popeth. Fe symudodd ein athro dosbarth ni, Moi Parri, y bordydd i un ochor ac fe'n gwahoddwyd ni i ddawnsio i synau roc, uchel, electronaidd gyda churiad oedd llawn cystal ag unrhywbeth oedd yn cael ei chwarae ar y radio ar y bws ysgol. Ond nid Queen, neu Status Quo neu Suzi Quatro oedd yn gwneud y sŵn yma ond Bran, Edward H Dafis, Seindorf a Meic Stevens. O'r diwedd roedd yna fwy i'r busnes siarad Cymraeg yma na jest cyd adrodd a cherdd dant. Roedd hyn yn hwyl. Ac roeddwn i eisiau mwy.

Pan gyrhaeddais i Ysgol Gyfun Rhydfelen fe ddes i'n aelod brwdfrydig o'r Uwch Adran, oedd yn trefnu disgos Cymraeg ar nosweithiau Gwener. Fe ddes i'n ffan o recordiau'r Trwynau Coch, Geraint Jarman a'r Llygod Ffyrnig oedd yn cael eu chwarae gan y DJ Alun ap Brinley o ddosbarth chwech. Dyma recordiau oedd yn adlewyrchu hinsawdd newydd, ifanc, oedd yn edrych ar y byd o'n cwmpas ac i'r dyfodol...

Roedd yn rhaid i mi gymryd rhan yn hyn i gyd, felly dyma fi a chriw o ffrindiau ysgol o gefndiroedd tebyg ffurfio ein grŵp ein hun, sef Clustiau Cŵn. Dyma oes y cylchgrawn Sgrech, y gigs ym Mlaendyffryn, Corwen a Plas Coch. Fe ddaeth ein record, Byw yn y Radio, allan ac fe ddechreuodd antur mwya fy mywyd i.

A phob bore Sadwrn, byddwn yn tiwnio mewn i Radio Cymru ar gyfer Sosban gyda Richard Rees. Ymhell cyn cyfnod y we a Maes E a Facebook a Twitter dyma lle roedd y bwrlwm i gyd. Bydde pobol yn sgrifennu mewn a ffonio gyda cheisiadau a negeseuon. Bydde bandie'n galw heibio i sôn am eu gigs a'u recordiau. Roedd sesiynau ecsgliwsif ac adolygiadau o berfformiadau. Wrth gwrs, roedd 'na raglenni teledu - ond fel mae pawb yn gwybod, y radio yw cartref roc a rôl - ac am ddwy awr ar ddechrau'r penwythnos, roedd gan roc a rôl gartref Cymraeg.

Wrth i'r wythdegau symud yn eu blaen fe gododd y sîn tanddaearol gyda grwpiau fel Datblygu, Y Cyrff a Tynal Tywyll yn dechrau mynnu sylw. Dyma gyfnod y ffansîns a'r labeli annibynnol; y casétiau, Recordiau Anhrefn a Fideo 9. Fe ymatebodd Radio Cymru gyda'u rhaglenni Hwyrach.

Yma, y gerddoriaeth ddaeth yn gyntaf, gyda rhaglenni fel Heno Bydd yr Adar yn Canu, gyda Nia Melville yn rhoi'r pwyslais ar fandiau oedd yn torri tir newydd. Bandiau ifanc fel Gorky's, Fflaps a Ffa Coffi Pawb ddaeth i'r amlwg fan hyn, a hynny ar raglenni oedd yn cael eu darlledu BOB NOS! Roedd hyn yn chwyldro aeth ymlaen i gofnodi tyfiant y sîn a alwyd yn Cŵl Cymru gyda llwyddiant Catatonia a'r Super Furries. Dyma hefyd gyfnod cylchgrawn Sothach, Recordiau Ankst ac R Bennig a'r sîn ddawns. Roedd yna deimlad fod Radio Cymru yna, trwy ei raglenni hwyrach, yn rhan o'r holl beth. O'r diwedd doedd dim rhaid i ti fod o reidrwydd yn aelod o gôr neu dîm rygbi i deimlo dy fod yn 'Gymro go iawn'.

Ac yn yr awyrgylch yma, ar ôl i SFA sgorio cais a'i throsi gydag albym uniaith Gymraeg - sef Mwng, yn y deg uchaf Brydeinig - fe ddaeth C2 i fodolaeth, ddeng mlynedd yn ôl, ar yr ail o Ragfyr 2002.

Roedd cerddoriaeth pop Gymraeg wedi tyfu lan. Ac roedd yn rhywbeth oedd yn werth ei ddathlu. O wyth o'r gloch bob nos, roedd Radio Cymru yn mynd i droi'n orsaf gerddoriaeth go iawn.

Roedd y tîm ar y dechre yn cynnwys DJs fel Kevin Davies, Beks, Daf Du ac wrth gwrs Huw Stephens. Dyma gychwyn Siart C2 i adlewyrchu beth oedd yn digwydd go iawn ar y sîn o wythnos i wythnos. Recordiwyd sesiynau gan yr anfarwol MC Mabon, Geraint Jarman, Llwybr Llaethog a'r bytholwyrdd Meic Stevens.

Dyma gyfnod labeli Ciwdod, Gwymon a'r cylchgrawn Y Selar. Caneuon fel Sex Sells gan y Poppies, Y Mwyafrif gan Pep Le Pew a Gad Fi Fod gan Cofi Bach a Tew Shady. Lansiwyd Gwobrau RAP; noson i ddathlu'r goreuon ymysg ein artistiaid.

Mae'r ddeng mlynedd ers dyfodiad C2 wedi gweld rhaglenni gan gymysgedd eang o ddarlledwyr fel Daniel Glyn, Lisa Gwilym, Magi Dodd, Hefin Thomas, Nia Medi, Ffion Gwallt Dafis, Brychan Llŷr, Geraint Jarman, Huw Chiswell, Huw Evans, Bethan Elfyn, Dyl Mei, Georgia Ruth, Ian Cottrell, Stuart Cable a Dewi Pws, Rhys Mwyn, Ryland Teifi, Owen Powell, Steffan Cravos, Cynan Llwyd, Griff Lynch, Gruff Pritchard, Ifan Evans a Dafydd James.

Ond beth am y presennol? Beth ydy pwrpas C2 yn 2012? Ai platfform i lansio gyrfa yn y cyfryngau fel cyflwynydd neu i weinyddu'r gwrandawyr gyda'r danteithion diweddaraf a mwya blasus o'r sîn? Ife i dorri tir newydd a darganfod talentau ifanc ynteu ein diddanu gydag eitemau difyr a doniol?

Yn bersonol, dwi'n hoffi cyfuniad. Ac mae'r cyfuniad yma yn bwysig i gadw C2 yn ffresh ac yn ddiddorol. Yn ystod y flwyddyn ddiwetha', dwi wedi ymddangos ar raglen yr unigryw Dafydd James yn canu medli o ganeuon Datblygu, Yr Anhrefn ac Amy Winehouse rownd y piano ac wedi dewis traciau i gymryd lan i'r gofod 'da fi ar raglen rhagorol Huw Evans. Dwi wedi siarad am rôl y gân protest ac wedi dathlu'r grŵp anfarwol Y Cyrff.

Fel gwrandäwr, dwi wrth fy modd pan mae cerddor neu arbenigwr/wraig yn cymryd yr awenau. Mae cyfresi Geraint Jarman, Ian Cottrell a Dyl Mei wedi bod yn ddifyr ac yn werthfawr. Dyw'r bobol yma ddim jest yn 'eitha hoff 'o gerddoriaeth, mae nhw, fel fi, yn obsessed! Mae eu brwdfrydedd yn hedfan drwy'r awyr fel y ffliw a dwi'n herio unrhyw un sy'n gwrando i beidio dal y firws melys o fewn pum munud.

Ar y llaw arall mae Magi Dodd fel mêt go iawn, yn arwain ar y daith ysgolion ac yn ein tywys ni drwy bentwr o tiwns a clecs. Mae ei steil hamddenol a chyfeillgar yn denu gwrandawyr ffyddlon ac ifanc i'r gwasanaeth ac mae ei chyfraniad yn werthfawr ac yn ddifyr ar yr un pryd.

Ac wrth gwrs, does dim pwynt trafod C2 heb rhoi masif pump uchel i 'Mr. C2', sef Huw Stephens. Mae e wedi bod yna ers y cychwyn. Ac wrth i'w yrfa ar Radio 1 gyrraedd yr uchelderau, mae e wedi bod yna hefyd ar C2 yn ein cyflwyno ni i bentwr o recordiau ôsym ac yn cyfweld â thalentau a phersonoliaethau mwya difyr y genedl. Nos Lun dwetha', ro'n i'n gyrru adre o weithio gyda grŵp ieuenctid yn Troedyrhiw. Roedd C2 ar y radio pan gyflwynodd Huw gân gan Afal Drwg Efa gyda Casi Wyn yn canu un o ganeuon Y Bara Menyn, sef Yr Wylan. Clasur o gân a recordiwyd yn wreiddiol dros ddeugain mlynedd yn ôl. Ond roedd gan y fersiwn yma guriad electronaidd a hollol 'nawr'. Dyma un o fomentau mwya perffaith y flwyddyn i mi. Roedd y ffaith bod y gân yma'n chwarae, a minnau'n hercian lawr yr A470 ar ôl diwrnod hir a blinedig yn adfywio ac yn gwneud i mi feddwl bod popeth yn iawn yn y byd.

Ym 1979 roeddwn i'n rhy ifanc i'r sîn. Yn 2012 dwi lot rhy hen. Ond dwi'n dal i ffitio mewn, rhywsut. Dwi'n caru pop a dwi'n caru pop Cymraeg. A thra fod C2 yn teimlo'r un fath mae'n haeddu bod ar yr awyr.

Mae Gwilym Rhys o'r Bandana rhai wythnosau i mewn i'w raglen newydd erbyn hyn, ac mae Gwyn Eiddior newydd ddechre cyfres am gerddoriaeth electroneg. Wrth gwrs mae 'na lot mwy wedi cyfrannu, a dyw pob un ddim wrth ddant pawb wrth gwrs, ond dyna un o'r pethe gore amdan y ffrwd. Ac mae'r ffaith ein bod ni gyd yn wahanol, gyda chwaeth gwahanol, yn rhywbeth i'w ddathlu.

Dwi'n eistedd ger fy radio digidol a dwi'n codi gwydred. Pen-blwydd hapus yn ddeg oed C2, a hir oes i ti!

Gareth Potter Tachwedd 2012

Oriel luniau 10 mlynedd o C2
Clip o ddechrau'r rhaglen gyntaf yn 2002


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.