Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sesiwn Unnos Gwyl Dewi

Categorïau:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 14:46, Dydd Iau, 23 Chwefror 2012

Dwi wastad wedi bod ychydig yn genfigenus o Huw Evans… Pam? Well, am ei fod yn gerddor gwych yn un peth, ond yn bennaf oherwydd mai fo sydd wedi cael cyflwyno cyfresi Sesiwn Unnos ar hyd y blynyddoedd!

Ond, mae Huw Evans yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd, yn teithio hefo Cate le Bon, sy'n golygu mod i'n cael y fraint a'r anrhydedd o gyflwyno Sesiwn Unnos Gwyl Dewi 2012!

Dwi'n edrych ymlaen yn arw, achos mae Sesiwn Unnos wastad wedi bod yn un o fy hoff raglenni i, ac mae'n brosiect hynod o uchelgeisiol a chreadigol. Dwi 'mond yn gobeithio y bydda i'n gallu aros yn effro drwy'r nos!

Fe ges i'r pleser o gyhoeddi'r rhestr artistiaid ar y rhaglen neithiwr, a chael sgwrs hefo un o'r artistiaid, sef Georgia Ruth Williams. Yn ymuno a Georgia fydd Carwyn Ellis o Colorama, Eryl a Sion o Jen Jeniro, Euron Jôs o Cowbois Rhos Botwnnog, a bydd Ifan Dafydd hefo ni i wneud ail-gymysgiadau fydd yn adlewyrchu'r noson.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Dewch draw i wefan C2 am 9pm nos Fercher - bydd y cyfan yn cael ei we-lifo'n fyw tan 6am! Dwi'n gobeithio blogio yn ystod y nos, a bydda i (@lisagwilym), y criw cynhyrchu @garethiwan @dylmei ac wrth gwrs @c2bbcradiocymru yn trydar drwy'r nos tan y bore bach. Dwi'n edrych ymlaen at noson llawn creadigrwydd, cerddoriaeth… ond dim cwsg.

Hwyl am y tro
Lis
x

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.