Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Saethau: wedi cael fy nharo gan ciwpid!

Categorïau:

Criw C2 Criw C2 | 11:10, Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2011

Band Gwyliwch y Gofod ar C2 yr wythnos yma yw Y Saethau - band ifanc addawol o Gaernarfon.

y saethau

Mae nw'n rhestru bandiau fel y Red Hot Chili Peppers a Blink 182 fel rhai o'u prif ddylanwadau, ac mae nhw'n dilyn pedigri gwych Ysgol Syr Hugh Owen o greu bandiau fel Eitha Tal Ffranco a magu cerddorion fel y brodyr Osian a Meilir Gwynedd o'r Sibrydion (gynt o'r Beganifs a'r Big Leaves).

Mae nhw eisioes wedi blasu peth llwyddiant yn eu gyrfa ifanc fel rocars, gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn y Galeri - ac mae digon o hiwmor y Cofi yn eu geiriau, ac alawon bachog sydd yn gwneud eu caneuon yn rai cofiadwy.

Ewch draw i weld myspace Y Saethau - demos eithaf amrwd sydd yno ar hyn o bryd, ond mae'n dangos eu potensial i gael cryn argraff ar y sîn gerddoriaeth yng Nghymru os wnawn nhw ddal ati.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.