Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Awydd cyfrannu "remix" i brosiect Unnos?

Categorïau:

Gareth Iwan | 14:27, Dydd Llun, 15 Chwefror 2010

Nos fory pan fydda ni yma yn recordio y rhaglen olaf yn y gyfres Sesiwn Unnos ,'da ni am drio rhywbeth go wahanol. Mi yda ni ishio chi gyfrannu i'r sesiwn drwy gyfrannu remix o un o'r caneuon. Mi wnai esbonio mwy... Y Racehorses fydd yn recordio'r sesiwn, a dwi'n gobeithio y bydda nhw wedi gorffen y gân gyntaf erbyn tua 11pm nos fory.

Be' da ni am ei wneud wedyn ydy rhoi darnau llais neu gitar y gân ar safle we C2 i chi fedru eu lawrlwytho. Y gobaith wedyn ydy y byddwch chi yn ail-gymysgu'r track, ac y bydd rhai o'r ail-gymysgiadau yn cael eu rhoi ar safle we Unnos C2, ac yn cael eu chawrae ar raglen "Goreuon Unnos" wythnos nesa ar C2.

Felly os da chi awydd ail-gymysgu can newydd sbon gan Racehorses, dewch draw i safle we C2 nos fory am 11pm.
Cofion
Gar

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:09 ar 15 Chwefror 2010, Tomos Smith ysgrifennodd:

    Felly, mond lawr lwytho vocals 'Y Racehorses' fydd rhaid i ni wneud am 11:00 nos fory. Wedyn i ni creu can yn defnyddio yr vocals yna yn ein can ni?

    Erbyn pa bryd fydd isho gyrru yr can yn nol?

    Gobeithio Clwad Gena Chi'n Fuan

  • 2. Am 15:12 ar 15 Chwefror 2010, Gareth Iwan Author Profile Page ysgrifennodd:

    ia, yn union! Yn ddelfrydol, byddai'n wych cael y "remix" erbyn 8am y bore wedyn (bore Mercher) gan mai dyna ydy syniad Sesiwn Unnos - OND da ni'n sylweddoli na fydd hynny'n bosib i rai pobol felly da ni am drio bod mor hyblyg ac y gallwn ni hefo hynny...

  • 3. Am 20:45 ar 15 Chwefror 2010, Crash.Disco! ysgrifennodd:

    Wicked. Edrych ymlaen yn barod!

  • 4. Am 09:31 ar 16 Chwefror 2010, Tomos Smith ysgrifennodd:

    Ideal! Mi fyddai yn cymerhyd rhan ag yn gobeithio cael rhiwbeth i chi erbyn 8am, gan fy mod yn gweithio am 8.30!!

    Fysa yn bosib i chi danfod yr link i lle fydd yr can i ni lawr lwytho?

  • 5. Am 09:42 ar 16 Chwefror 2010, Gareth Iwan Author Profile Page ysgrifennodd:

    dwi ddim yn meddwl fod y darn yna o'r wefan ar gael eto - tyrd draw i wefan C2 am 11pm ac fe ddylai fod yn weddol amlwg. Os dio ddim, ebostia c2@bbc.co.uk
    A diolch yn fawr am ddangos diddordeb!
    Cofion
    Gar

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.