Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Penwythnos Mawr yn Swindon

Categorïau:

Glyn Wise Glyn Wise | 18:27, Dydd Mercher, 13 Mai 2009

Wel am benwythnos gwych! Diolch i BB Aled, cefais i a Magi docynnau i'r 'Big Weekend' yn Swindon. Aethom yno yn hwyr ar y dydd Sadwrn, felly roeddwn yn flin iawn ein bod wedi colli hanner y bandiau. Ond, fe arhosom tan y diwedd i weld 'Basement Jaxx' yn perfformio. Maen't yn gwybod sut i rocio gyda merched mewn gwisgoedd ffansi yn dawnsio ar y llwyfan. Roedd y gynulleidfa yn dawnsio'n wyllt gyda llawer o bobl yn sathru ar fy nhraed gan eu bod yn neidio i'r gerddoriaeth. Fe arhosais mewn gwesty am y noson lle cefais amser i gwrdd a llawer o sêr y byd radio. Ond, roedd Chris Moyles yn amlwg wedi cael digon, ac yn eistedd ar ben ei hun yng nghornel yr ystafell. Sioc, ond mae rhaid i mi gyfaddef ei fod yn denneuach nag beth oeddwn yn ei ddisgwyl!

Dydd Sul oedd y gora' o'r ddau diwrnod - cefais amser i weld Lily Allen yn fyw yn y 'Live Lounge.' Mae hi'n ferch dalentog iawn, byr o ran maint ac yn edrych digon 'normal', sydd yn hollol wahnol i'w hedrychiad ar ei fideos cerddoriaeth. Mae rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n ffan newydd o 'Ladyhawke.' Credaf ei bod yn ferch sydd yn mynd i fod yn enfawr yn y dyfodol. Cafodd ei gwahodd i'r llwyfan gan Huw Stevens mewn gwisg eryr, haha, edrych yn dda Huw! Merch swil ydi hi, eithaf retro yr olwg ond mae ei chaneuon yn fantastig. Rwyf am fynd allan i'r siopau i brynu ei halbym. Nid caneuon dawnsio ydynt ond caneuon fuaswn yn hoffi gyrru a gwrando iddynt. Gwelais Aleisha Keys, Franz Ferdinand, Scouting for Girls a Snow Patrol yn chwarae. Roedd yn ddiwrnod anhygoel.

Ond, yr unig berth rwyn casau am gigiau fel hyn yw'r bwyd. Dydw i erioed wedi bod yn ffan o 'fwyd-sydyn' ac mae Eisteddfodau a gigs Cymraeg yr un peth, llawn o fwyd afiach sydd yn troi arna'i! Nid yw pobl yn gall i fyw ar fwyd-sydyn - mae'n llenwi'r twll am hanner awr a'ch gadael yn eisiau mwy. Roedd y bwyd yn Swindon yn £6 am bron i ddim. Felly, nodyn i bawb, ewch gyda phicnic neu fwyd eich hunain oherwydd mae'r prisiau a safon y bwyd yn anghredadwy!

GLYN XX

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.