Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Perez Hilton...

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 12:00, Dydd Llun, 18 Mehefin 2007

Rili di blino'r wythnos yma. Rili angen gwyliau. Diolch i'r drefn ma fy ngwyliau hir ddisgwyliedig i Aiya Napa namyn wythnos i ffwrdd. Ond ma'r wythnos cyn mynd i ffwrdd ar wyliau wastad yn llusgo nag yw e? Fi hefdy wedi cael pwl o wylio sianel National Geographical ac yn benodol y rhaglenni Air Crash Investigation a Seconds From Disaster sydd yn amlach na pheidio yn son am ddamweiniau awyren.

Nes i wylio un raglen noson o'blaen nath ganolbwyntio ar hanes awyren British Airways oedd yn hedfan o Lundain i Awstralia a thra oedd hi filoedd o droedfeddi uwch y môr, nath y 4 injan dorri lawr a nath y jymbo ddechre plymio i'r ddaear. Odd fy mhen yn dweud "Tro'r siannel - Tro'r sianel" ond am ryw reswm doedd fy nghorff ddim yn gwrando, felly nes i aros yna i wylio'r reconstruction i gyd.

Y bit gore/gwaetha oedd pan nath y bobol ar yr awyren edrych mas drwy'r ffenest a gweld fflamau anferth yn dod o'r injans a nath mwg trwchus du ddechre llifo mewn i'r cabin. Dyma nhw'n gofyn i'r cabin-crew beth oedd y broblem a dyma nhw gyd yn ateb, "Ooo - na - does dim problem - peidiwch a phoeni, nam technegol - na'i gyd." O na - dim problem ar wahan i'r ffaith fod yr awyren yn plymio i'r ddaear ar gyflymdra o 500 milltir yr awyr!
Drwy lwc nath yr awyren lanio yn saff, ond ma meddwl am gamu ar yr awyren i Gyprus ddydd sul yn codi chydig bach o ofn arnai rhaid i fi ddweud. A nai fyth trystio cabin-crew eto chwaith.

Reit - fi off. Welai chi wythnos nesa! Gobeithio!!!

Magi

xx

O.N - Sori, dyw'r e-gofnod yma ddim byd i neud ag unrhywbeth, a dim byd i neud gyda Perez Hilton.. sori.. fi rili angen gwylie.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.