Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mynd i'r theatr, cariad....

Categorïau:

Magi Dodd Magi Dodd | 12:00, Dydd Sadwrn, 27 Ionawr 2007

Nes i fynd i weld Les Miserables yn Llundain gyda Alun ddydd Mercher. Fi erioed wedi bod i weld sioe gerdd o'r blaen - ond gan bo fi'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Rhydfelen, dwi wrth gwrs, wedi sereni mewn sawl sioe fy hun. (Wel - pan fi'n dweud 'sereni' - fi'n meddwl bo fi reit yng nghefn y corws mewn un cynhyrchaid o Trafferth Lawr yn Tseina.)

Roedd y sioe yn anhygoel. Ma gen i attention span rili byr, felly o fi'n poeni braidd fyddwn i'n aflonyddu ar ôl y gân gynta'. Ond odd y sioe yn freaking amazing! Nes i fwynhau bob eiliad. Dyw Alun ddim di stopio canu caneuon o'r sioe ers 'ny - sy'n gallu bod bach yn embarassing braidd. O ni yn Tescos dros y penwythnos a nath e ddechre canu "On My Own" yng nganol y bit bara. Ma Daf Du a Robin C2 wedi cyfadde' hefyd eu bod nhw wrth eu bodd â sioeau cerdd hefyd. Dwi wedi fy amgylchynu gan Metro-sexuals. Dere nol Kevin Davies - dwi di madde' popeth i ti!

Dyma'r rhestr o bobol enwog nethon ni weld yn Llundain;

  • Suranne Jones (bant o Coronation Street)
  • Jarvis Cocker
  • Cherie Blair
  • Ian Hislop
  • Mikhiael Gorbachev
  • Richard Bacon (y boi nath adel Blue Peter tan gwmwl)
  • Timmy Mallet
  • Arsene Venger
  • Chris Martin
  • Elvis Presley

Ma'r ddau ohono ni yn benderfynol nethon ni weld yr holl bobol yma yn Llundain. Does neb yn credu ni, ond fi ac Alun yn glynu wrth ein stori. Do - gethon ni G'n'T neu bedwar, ond wir i chi - dyna pwy welson ni....

Es i i Ganolfan y Mileniwm gyda Glyn a Mair C2 ddydd Gwener i siarad gyda dysgwyr Cymraeg. Roedden nhw'n grêt ac yn bositif iawn. Diolch i Elliw Iwan am ein gwahodd ni.. Fyddwn ni'n cadw mewn cysylltiad gyda'r criw i gael gwneud yn siwr eu bod nhw'n rhugl cyn diwedd y flwyddyn!

Nath Glyn adel ei ffôn yn y stiwdio ar ôl y rhaglen ddydd Sadwrn... duh! Dychmygwch y trafferth sa fi di gallu creu. Ffôn Glyn Wise yn nwylo dieflig Magi Dodd... mmm... Ond nes i'r peth cywir a rhoi'r ffôn nol iddo fe. Ond os ma Aisylene yn cael funny phone calls o ryw rif dieithr o Bontypridd.....

M xxxx

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.