Sut i fynegi barn
RHODRI Maaaaaam! Mae batri’r tabled yn fflat. Lle mae fy ngwifren bŵer? Maaaaaaaam!!
ERIN Haia Rhodri, popeth yn iawn?
RHODRI Ma’ Mam a Dad wedi cuddio pob un charjar yn y tŷ, achos bo nhw’n credu mod i’n treulio gormod o amser ar fy nhabled! Ond dw i angen mynegi fy marn ar gêm newydd ‘Croesi’r Ffordd’. Sut allai wneud hynny heb bŵer?
ERIN Wel, pam na ddoi di am dro gyda fi, a gei di fynegi dy farn ar y gêm dwi’n hoffi chwarae? Ei henw yw ‘Bywyd Go Iawn’.
RHODRI Yyy, ar ba blatfform mae’r gêm ‘ma?
ERIN S’dim angen iti ei lawrlwytho, mi wyt ti wedi’i chwarae ers iti gael dy eni. Iawn, beth am gychwyn gyda mynegi barn ar un o lefelau syml y gêm, o’r enw ‘Sgwrs Normal Wyneb yn Wyneb’, sef beth sydd wedi bod yn digwydd ers iti ddod allan o’r tŷ.
RHODRI Yn fy marn i, mae o’n iawn.
ERIN Ie, mae angen bach mwy o waith na hynny. Yn gynta’, gwna ddatganiad am sut ti’n teimlo am y pwnc.
RHODRI Oce, wel, ar un llaw, mae siarad wyneb yn wyneb yn eitha’ pleserus, ond ar y llaw arall mae o hefyd braidd yn hen ffasiwn.
ERIN Nesa’, rho reswm am y datganiad yma.
RHODRI Wel, dwi o’r farn mod i’n medru cyfleu fy hun yn well wrth anfon negeseuon at bobl yn hytrach na siarad efo nhw.
ERIN Dwi angen enghraifft i bwysleisio’r pwynt yma.
RHODRI Wel, pan dwi’n anfon neges, mi fedra’i ddangos mod i’n hapus drwy ddanfon emoji o wyneb hapus. Neu os dwi’n drist, anfon wyneb trist.
ERIN Ma’ rheina yn bwyntiau dilys, ond wrth fynegi barn, mae angen iti ystyried gwahanol farnau, rhag ofn i dy ddadl fod yn rhy unllygeidiog. Mae emojis yn gallu cyfleu hapusrwydd, ond gelli di wneud hynny wrth chwarae ‘Bywyd Go Iawn’ hefyd. Er enghraifft, nid oes ffôn gan mamgu, felly mae hi’n cyfleu hapusrwydd drwy sefyll o ‘mlaen i a gwenu.
RHODRI O ia!
ERIN Felly, mae angen crynhoi hyn i gyd, a dod i ryw fath o gasgliad.
RHODRI Wrth chwarae ‘Bywyd Go Iawn’, mi rois i gynnig ar y lefel ‘Sgwrs Normal Wyneb yn Wyneb’. Roedd yn ddiddorol yn fy marn i, ond i fod yn onest mae’n well gen i gyfathrebu drwy decstio, oherwydd dwi’n teimlo ’mod i’n medru cyfleu fy hun yn well fel ‘na. Wedi dweud hynny, mae emojis yn bethau eitha’ amhersonol, a dwi rwan yn gwybod bod modd imi gyfleu fy emosiynau mewn ffordd fwy real wrth chwarae ‘Bywyd Go Iawn’. Ond, yn y pen draw, mae’n well gen i decstio, achos mae fy wyneb i’n edrych yn rhyfedd pan dwi’n gwenu neu’n crio.
ERIN Da iawn. Barod am y lefel nesa’, ‘Prynu Rhywbeth o Siop Go Iawn’?
RHODRI Ond dw i’n meddwl fod prynu nwyddau oddi ar y we gymaint yn haws.
ERIN Pam?
RHODRI Achos mi fedra i gymryd fy amser i ddewis be dwi isho. Gêm gyfrifiadurol, er enghraifft. Mi fedra i ddewis y gêm, talu amdani, ac mae’n cyrraedd y diwrnod wedyn heb i mi orfod gadael y tŷ, ac felly dw i’n arbed arian bws.
ERIN Ie, ond pan ti’n chwarae ‘Bywyd Go Iawn’, fe alli di fynd i siop go iawn, a siarad gyda pherson, i ofyn eu barn nhw. Mae’n fwy personol, ac maen nhw’n gallu dy helpu i ddewis. Mewn â ti!
Beth yw dy farn ar y lefel ‘Prynu Rhywbeth o Siop Go Iawn’ felly?
RHODRI Credaf fod manteision di-ri i brynu nwyddau ar-lein. Dwi bendant yn meddwl ei bod hi’n system fwy cyfleus na gorfod cerdded yr holl ffordd i’r siop. Rheswm arall bod siopa ar-lein yn well yw oherwydd bod y nwyddau‘n aml yn rhatach. Ond, un peth chewch chi ddim wrth siopa ar-lein yw sgwrs ddifyr debyg i’r un ges i efo’r person tu ôl i’r cownter heddiw, sydd wedi fy narbwyllo i beidio prynu’r gêm on i isho, gan y bydd un well ar werth wythnos nesa’. Felly i grynhoi, mae siopa ar-lein yn fwy cyfleus ac yn rhatach, ond yn brofiad llai personol.
ERIN Mae ‘Bywyd Go Iawn’ yn grêt! Ti ddim angen bod ar dy dabled o hyd.
RHODRI Ia, wel, dwi ddim mor siŵr am hynny. Achos tra on i yn y siop, mi brynais i hwn!
Diolch am y gêm Erin, credaf yn gryf fod ‘Bywyd Go Iawn’ yn gêm eitha’ diddorol, achos bod y cymeriadau a’r graffeg yn ymddangos mor real. Yn y pen draw, dwi’n gwbod lle dwi isho bod. Adra efo fy nhabled!