Sut i atalnodi
JOSEFF ‘Bwyd ofnadwy. O flasus.’ Sai’n meddwl bod yr atalnod llawn ‘na yn y lle cywir. Un gwall bach, ac mae’n newid yr ystyr yn gyfan gwbl. Hei, ti’n clywed y sŵn ‘na?
RHODRI Pa sŵn?
JOSEFF* Yn union! Tawelwch! Dyw Erin ddim yn malu awyr.
RHODRI Ma’ hi’n siarad fel melin bupur. Ti’n meddwl ‘i bod hi a Mali yn mwynhau eu diwrnod allan?
JOSEFF Gawn ni weld nawr!
RHODRI Neges gan Mali.
MALI “Shwmae, bois. Nodyn cyflym i ddweud cymaint o amser da ry’n ni’n ei gael. Digon o adeiladau hanesyddol, diddorol, a hudolus.”
RHODRI Wel, ‘na chi braf.
JOSEFF Ha! Dyw Erin ddim yn cytuno.
ERIN Dyma’r ddinas fwya’ diflas yn y byd llawn hen adeiladau llychlyd a hen bobol yn trafod pethau ddigwyddodd ganrifoedd yn ôl does dim digon o bobol ifanc o gwmpas a fi ‘di cael digon ac mae Mali wrth ei bodd gyda’r holl hanes ond pwy sydd eisiau dysgu am hen bethe mae’n well ‘da fi fynd i’r gampfa neu wylio’r Gemau… Olympaidd.
JOSEFF Mae Erin… yn cael problemau… ‘da atalnodi… hefyd.
RHODRI Sgen Erin ddim amsar i atalnodi, siŵr. Ti’m yn ennill y ras gan metr bob blwyddyn yn Mabolgampau’r ysgol wrth atalnodi.
JOSEFF Ond ma fe mor hawdd! Atalnod llawn rhwng brawddegau, coma os ti moyn gadael bwlch yng nghanol brawddeg, gwahannod mewn rhestrau…
RHODRI Aros funud. Dwi’n gyrru hyn i gyd iddi hi…
JOSEFF Prif lythyren ar ddechrau brawddeg, wrth gwrs. Cromfachau o gwmpas darn o wybodaeth ychwanegol. Dyfynodau os ti’n… wel… dyfynnu.
RHODRI A… gyrru. Dwi’m yn meddwl bod hi ‘di gwerthfawrogi hwnna.
JOSEFF “Maer ddinas yn enfawr yn hen ac yn ddiflas.”
RHODRI Chwara teg! Ma’ hi’n cyfarfod y maer, ac yn sarhau’r boi!
JOSEFF Atalnodi sydd ar fai fan hyn eto. “Mae”, collnod, “r”. Ti’n defnyddio collnod pan mae gen ti lythyren ar goll. Yn yr achos yma, mae hi’n golygu “mae yr” yn lle “maer”. Deall?
RHODRI Ro i wbod iddi rŵan.
JOSEFF “Y trên yn hwyr? Pam.”
RHODRI Sut ‘da ni fod i wbod os ydi’r trên yn hwyr neu beidio? A pwy ‘di Pam?
JOSEFF Nid Pam. Erin. Mae’i wedi rhoi’r marc cwestiwn a’r atalnod llawn yn y llefydd anghywir.
ERIN Y trên yn hwyr. Paaaam?
RHODRI Wna i roi gwbod iddi.
JOSEFF Mae’n iawn. Y… weda i wrthi nes ymlaen. Bwyd ofnadwy?
RHODRI O flasus!
JOSEFF Na. Na. Na.
RHODRI Jest bwyd ofnadwy.
JOSEFF Roedden nhw’n iawn y tro cynta’.