Beth yw ffeithlun?
RHODRI Reit, Mali. Ti’n gwbod pam ‘da ni yma?
MALI Ydw. Nad’w.
RHODRI Y cyngor ‘di cal digon o’r sbwriel ‘ma. Wyddost ti mai dim ond 39% o bobol sy’n ailgychu? Dydi hynny ddim yn ddigon da. Angen i ni newid petha. A ti’n gwbod sut ‘da ni am wneud?
MALI Murlun anferth.
RHODRI Ffeithlun. Dyna’r gair. Ac mae ‘na ffordd arbennig o’u gwneud nhw.
Mae angen i’r ffeithlun fod yn syml. Cyn lleied o sgwennu â phosib, a dylsa’r ystyr fod yn glir yn syth. Lot o syniadau. Un ddelwedd.
MALI Dwi’n gwybod, Rhods. Ches i ddim fy ngeni ddoe.
RHODRI Barod? Hmm…
‘Rhowch eich sbwriel yn y bin.’ Dyna’r peth pwysica. Ia. ‘Peidiwch â gollwng sbwriel. Nid ar lawr. Dan unrhyw amgylchiadau.’ Dyna’r neges ‘da ni isio ei chyfleu. Rywsut. Iawn?
Iawn. ‘Ailgylchwch eich gwastraff.’ Mae’n bwysig bod yr eitemau cywir yn mynd i’r biniau cywir. Pethau allwch chi ddim eu hailgylchu. Gawn ni weld ‘wan. Gwastraff bwyd. Bylbiau gola. Pren. ‘Gêm strategaeth newydd, Orcs vs Barbariaid.’ Wps. Hysbyseb ‘di hwnna.
Lle o’n i? O, ia. Ailgylchu. Mater o gwrteisi ydi o’n y pen draw, de? Cwrteisi at y blaned. Sôn am gwrteisi, ‘Byddwch yn gwrtais’. Ma hwnna’n un arall. A’r peth ola, ‘Parchwch eich cymuned’. Yr un yna’n ddigon clir dwi’n meddwl, dydi? Reit ta. Gawn ni weld be sgen ti?
MALI Mae e fymryn yn… brysur.
Dwi’n meddwl alla i ei dwtio fe. Angen iddo fod yn syml ti’n gweld, Rhods. Be ‘di’r prif bwyntiau da ni angen eu cynnwys?
Be ti’n feddwl?
RHODRI Cymaint yn well. Wnaethon ni’n dda fan ’na, yn do?
Disgwylia funud. Mae ‘na un reol arall yma... ‘Dim… graffiti.’