Sut i ysgrifennu adolygiad
ERIN Mae gas ’da fi giwio. Yn enwedig ar gyfer ffilm ry’n ni i gyd wedi’i gweld yn barod! Gawn ni fynd i weld Y Wrach?
RHODRI Mae’n rhaid i Mali gael gweld... Capten Anhygoel.
ERIN Fe yrrais i adolygiad ati hi bore ’ma, felly ble mae hi?
RHODRI A fi!
JOSEFF Fi hefyd.
ERIN Fy adolygiad yn amlwg wedi plesio!
MALI Plesio!? Dyna i gyd wnest ti oedd tecstio’r stori gyfan ata i, a sbwylio’r holl ffilm!
Erin, mae angen adolygiad sy’n sôn am y stori’n fras, heb ddatgelu gormod o’r cynnwys. Ti angen dweud yn glir pa fath o ffilm yw hi, er mwyn rhoi gwybod i’r gynulleidfa yn union beth sy’n eu disgwyl. Pwy yw’r actorion? Y cyfarwyddwr? At bwy mae’r ffilm wedi’i anelu?
Mae’n bosib rhoi syniad da i rywun sut beth yw’r ffilm heb fynd i ormod o fanylion. Ac wrth gwrs, mae angen rhoi dy farn.
JOSEFF Dyna wnes i.
MALI Wel... o fath.
Helo, a chroeso i Sinemali. Yn ymuno â mi mae Joseff. Joseff, y ffilm Capten Anhygoel. Dy farn?
JOSEFF Iawn, de.
MALI Does dim byd jest yn ’iawn’, Joseff. Mae gan bopeth ei agweddau da, a’i agweddau drwg. Beth oeddet ti’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi am y ffilm? Wnaeth unrhyw beth dy siomi neu dy gynhyrfu?
JOSEFF Wel, ar un llaw, ro’n i'n hoff o’r effeithiau arbennig. Ar y llaw arall, doedd y darn yn y canol pan wnaeth mam Capten Anhygoel droi’n neidr gantroed fawr o’r gofod ddim yn gweithio.
RHODRI Be oeddet ti’n ei feddwl o fy adolygiad i, Mali? Wnes i argraffu copi iddi hi.
MALI Mae’n rhaid i ti ddysgu i aros ar y pwnc mewn adolygiad. Dwed ba bethau rwyt ti’n eu hoffi neu ddim yn eu hoffi. Rho’r rhesymau pam. Rho enghreifftiau. Dw i’n sicr ddim angen gwybod am y byrgyrs gest ti ar ôl y ffilm. Rhaid bod yn gryno.
RHODRI Ond ro’n i wedi cynhyrfu gymaint am y ffilm… ac mi oedden nhw mor flasus.
GWERTHWR TOCYNNAU Capten Anhygoel?
MALI Y, na. Dim diolch. Dw i’n teimlo ’mod i wedi gweld y ffilm yn barod.
GWERTHWR TOCYNNAU Y Wrach?
MALI O, dw i wedi gweld yr un yna. Ffilm arswyd, yn sôn am fenyw sy’n deffro un bore i ddarganfod bod ’da hi bwerau hud. I gychwyn, mae hi’n eu defnyddio nhw i helpu ei ffrindiau, ond yn fuan iawn mae’r stori’n troi’n dywyll.
Cyfeillgarwch yn mynd ar chwâl ydy un o brif themâu’r ffilm. Mae’r is-blotiau’n plethu’n grefftus i mewn ac allan o’r brif stori. Mae’r gerddoriaeth yn gweddu’n berffaith â’r delweddau ar y sgrîn. Ychydig yn rhy ddychrynllyd ar adegau, efallai.
Ond mae’r brif actores yn haeddu Oscar. Pan ’da chi’n gweld ei monolog yn y drydedd act... mwah! O, a ges i fy synnu mai breuddwyd oedd y cyfan.
Wps!
RHODRI Ffansi’r caffi?
MALI “Mae’r byrgyrs yn llawn sudd, ac yn gwegian o dan bwysau’r salad llesol sydd wedi ei bentyrru ar eu pennau. Balans perffaith o fwyd jync a chynhwysion blasus. A chyda bara ffres wedi ei bobi ar y safle, does dim rheswm i beidio â rhuthro yma ar frys pan ydych chi’n teimlo’r chwant bwyd yna’n cosi yng ngwaelod eich bol.”
Ti’n gwybod beth? Dydy e ddim yn adolygiad rhy wael.
RHODRI Diolch, Mali.