Sut i ddadansoddi
MALI Felly dyna lle on i yn dybl Cemeg yn eistedd wrth ymyl Sion Paul, sy’n caru celf…
Peth nesa’, dyma fe’n fy ngwahodd i i fynd gydag e i’r galeri yma i ddadansoddi eu casgliad newydd. Dwi’n gw’bod!
Sori! Dwi ‘di cyrraedd yn gynnar i ymarfer fy sgiliau dadansoddi. Dryches i ar y we... ma’ angen i mi ddatgan, dyfynnu, ac wedyn dadansoddi. Dwi’n gw’bod!
Sori! Iawn, sut ma’ hwn yn gweithio te?
TABLED Croeso i Oriel y Goleuni.
MALI Iawn, wna i esgus bod Sion Paul wrth fy ymyl. Be am i mi fynd ati i ddadansoddi’r llun yma? Iawn, yn gynta’ gad i ni glywed y disgrifiad.
TABLED Enw’r darn yw ‘Ein Planed Fawr Ni’. Mae’n ddathliad o brydferthwch ein system solar ni, a’r ffordd y mae’r ddaear yn rhan fach o gasgliad unigryw o blanedau.
MALI Hmmmm, diddorol. Ti’n gweld Sion Paul, mae’n bwysig ystyried y tri D yn fan hyn. Datgan yn gynta’. Mae’r llun yn brydferth. Dyfynnu nesa’. Dywedodd y llais mai ‘dathliad’ ydy o. Sai’n siwr am hynny. Mae’r Ddaear yn fwy na’r planedau eraill, a dwi’n gwbod bod hynny ddim yn wir. Y drydedd D? Dadansoddi. Dwi’n meddwl bod hyn yn rhybudd gan yr artist ein bod ni’n meddwl gormod ohonon ni’n hunain, a bod angen i ni sylweddoli mai planed fach ddi-ddim ydyn ni yn y bôn, ac mae’r wyneb trist ar y Ddaear yn crynhoi hynny.
Yyy, nesa’.
TABLED Enw’r darn lliwgar a naturioliadd hwn yw ‘Edrychwch ar y mwncïod’. Mae’r artist yn gofyn…
MALI Amser am y tri D unwaith eto, Sion Paul. Datgan. Disgrifio be dwi’n ei weld. Gwelwn ddarn o waith sy’n dangos pobl a mwncïod. Dyfynnu. Mae’r disgrifiad yn mynnu bod yr artist yn gofyn cwestiwn am ein defnydd o’n ffonau. Dadansoddi. Dwi’n meddwl bod yna rywbeth arall yn mynd ymlaen fan hyn. Enw’r darn lliwgar yw ‘Edrychwch ar y mwncïod’. Ac mae e’n hynod o naturiolaidd, mae e mor realistig, mae’n wych.
Ond os gofynnwch chi’r cwestiwn ‘Am bwy ma’r artist yn sôn?’, yna mae modd dehongli’r bobl fel y mwncïod. Mae’r artist yn galw dynoliaeth yn fwncïod sy’n fwy parod i dynnu lluniau ohonyn nhw’u hunain, yn hytrach na gwerthfawrogi’r hyn sydd o flaen eu trwynau. Mi ydyn ni’n genhedlaeth sydd ag obsesiwn â hunluniau. Am ddarn gwych!
TABLED Ydych chi’n barod ar gyfer y darn nesaf?
MALI Ydw, ond dwi’n meddwl mod i’n medru dadansoddi rhain heb help y llais ‘ma. Mae disgrifiadau’r llais yn rhy arwynebol. Rhaid edrych yn ddyfnach. Datgan, dyfynnu, dadansoddi, ynde Sion Paul?
SION Cywir Mali!
MALI Ah, Sion Paul. Dwi’n hen law ar ddadansoddi celf. Dilyna fi ac fe arweinia i di drwy’r darn nesa’. Sdim angen llais y tabled arnat ti.
Dwi heb wrando ar y llais, sai’n siwr beth yw enw’r darn, ond mae’n gerflun diddorol. Yr hyn a welwn ni yw drws trwm, cadarn. Ond a ydy’r drws yna i gadw rhywbeth i mewn, neu i adael rhywbeth allan? Dwi’n meddwl bod yr artist yn ceisio awgrymu ein bod ni fel pobol yn creu’r drysau yma ein hunain, ond mai ni sydd i fod i benderfynu os ydyn nhw’n arwain at fywyd gwell ai peidio.
SION Hmm, dadansoddiad diddorol iawn. Sgwn i beth sy ‘da’r llais i ddweud? Dwi’n amau’n fawr os cawn ni ddadansoddiad mor ddwys â ‘na.
TABLED Os oes tân, canwch y larwm ac ewch i’r allanfa agosaf.