Astudiaeth achos – Christchurch 2011 (HIC)

Achosion

Cafodd dinas Christchurch yn Seland Newydd, sy’n wlad incwm uchel, ei tharo gan ddaeargryn ar 22 Chwefror 2011. Roedd yn ddaeargryn maint 6.3 ac roedd ei ganolbwynt yn fas iawn – 4.99 cilometr o dan arwyneb y Ddaear. Digwyddodd y daeargryn ar ffin plât gadwrol rhwng plât y Môr Tawel a phlât Indo-Awstralia.

Roedd uwchganolbwynt y daeargryn yn Christchurch, ar Ynys y De yn Seland Newydd.

Y daeargryn cryfaf sydd wedi’i gofnodi yn ddiweddar yn Seland Newydd yw daeargryn i’r gogledd-ddwyrain o Christchurch ar 14 Tachwedd 2016, mewn tref fach o’r enw Kaikoura. Roedd yn ddaeargryn maint 7.8, ac roedd ei ddyfnder yn 15 cilometr.

Effeithiau

Adeiladau wedi eu difrodi gan ddaeargryn ar stryd yn Christchurch, yn Seland Newydd. Yr unig beth sydd ar ôl o du blaen yr adeiladau yw’r rwbel yn y stryd.
Adeiladau wedi eu difrodi gan ddaeargryn yn Christchurch

Effeithiau ar isadeiledd

  • Cafodd ysgolion eu cau am bythefnos oherwydd y difrod.
  • Cafodd difrod ei achosi i dros 50 y cant o adeiladau’r ddinas.
  • Cwympodd tŵr eglwys gadeiriol y ddinas.
  • Fe wnaeth y daeargryn amharu’n ddifrifol ar wasanaethau trenau a bysiau.
  • Cafodd pibellau dŵr a charthffosiaeth eu difrodi.

Effeithiau cymdeithasol ac economaidd

  • 181 o bobl wedi’u lladd.
  • 2,000 wedi’u hanafu.
  • Cafodd cyflenwadau dŵr eu halogi oherwydd difrod i bibellau carthffosiaeth, gan gynyddu’r risg o glefydau.
  • Roedd busnesau ar gau am amser maith.
  • Methodd Christchurch â chynnal pump o gemau Cwpan Rygbi’r Byd.

Ymatebion er mwyn lleihau’r effeithiau

  • Darparu cymorth rhyngwladol (tua $6 i $7 miliwn).
  • Gweithwyr cymorth o elusennau fel y Groes Goch yn dod i helpu.
  • 300 o swyddogion heddlu Awstralia yn cael eu hanfon yno.
  • Darparu tai dros dro.
  • Sefydlu ysbytai dros dro – ymateb dros dro ond effeithiol.

Ymatebion er mwyn datblygu’r capasiti i ymdopi

  • Sefydlodd y llywodraeth dasglu newydd i helpu i ymdrin â daeargrynfeydd yn y dyfodol.
  • Cafodd ardaloedd eu rhannu’n barthau er mwyn asesu’r difrod.
  • Mae pobl ym mhob rhan o Seland Newydd bellach yn cael eu haddysgu i wneud ymarferion paratoi ar gyfer daeargryn.

Ymatebion i fynd i’r afael â gwraidd y broblem

  • Mae llywodraeth Seland Newydd yn ymdrechu’n galed i godi arian fel bod pobl yn gallu adeiladu cartrefi a strwythurau sy’n gallu gwrthsefyll daeargrynfeydd.

Cartref diogel rhag daeargryn ar Ynys y De, yn Seland Newydd

  • Mae dodrefn trwm ynghlwm wrth y waliau a’r llawr, fel nad oes perygl iddynt ddisgyn ac anafu pobl pe bai daeargryn yn digwydd.
  • Mae sylfaen goncrit uwch na lefel y ddaear yn darparu sail gadarn.
  • Defnyddir fframiau dur sy’n gallu plygu mewn daeargrynfeydd eithafol, ond sydd hefyd yn darparu pwyntiau angori cryf.
  • Mae generaduron yn yr islawr y gellir eu defnyddio os bydd y trydan yn cael ei golli yn ystod daeargryn.
  • Defnyddiwyd paenau mawr o wydr diogelwch hyblyg i ddarparu golau naturiol. Mae’r gwydr yn gallu plygu mewn daeargryn.
  • Mae perchnogion y cartrefi’n defnyddio apiau ffonau clyfar i fesur a monitro seismograffeg, ac i gael rhybudd ynglŷn â chryniadau neu ddaeargrynfeydd posibl.