Mesur daeargrynfeydd

Tan yn ddiweddar, roedd daeargrynfeydd yn cael eu mesur ar raddfa Richter. Mae graddfa Richter yn mesur maint daeargryn (pa mor gryf yw’r daeargryn). Mae’n cael ei fesur gan ddefnyddio peiriant o’r enw seismomedr sy’n cynhyrchu seismograff. Fel arfer mae graddfa Richter yn cael ei rhifo o un i ddeg, ond nid oes terfyn uchaf. Mae’n logarithmig, hynny yw, mae daeargryn sy’n mesur pump ar y raddfa ddeg gwaith yn gryfach na daeargryn sy’n mesur pedwar.

Mae daeargrynfeydd sy’n mesur un i ddau ar y raddfa’n digwydd yn rheolaidd, ac maen nhw mor fach fel nad yw pobl yn gallu eu teimlo. Mae daeargrynfeydd sy’n mesur saith a mwy yn digwydd yn llai aml, ond maen nhw’n gryf iawn ac yn gallu achosi llawer o ddinistr. Y daeargryn mwyaf sydd wedi cael ei gofnodi erioed yw daeargryn yn Chile yn 1960. Roedd yn mesur 9.5 ar y raddfa Richter.

Ar bwynt 1, mae cryniadau bach yn digwydd yn rheolaidd, ond yn aml iawn does neb yn eu teimlo. Ar bwynt 10, mae daeargrynfeydd cryf iawn yn achosi dinistr mawr, ond maen nhw’n digwydd yn llai aml.Gwahanol feintiau o ddaeargrynfeydd ar y raddfa Richter