Diweithdra

Un o effeithiau pennaf y Dirwasgiad oedd y cynnydd sylweddol mewn diweithdra ym Mhrydain. Cododd i 2.5 miliwn yn 1933. Roedd hynny yn 25 y cant o’r gweithlu. Ardaloedd diwydiant trwm yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, Cymru a gogledd Lloegr a ddioddefodd waethaf. Diwydiannau megis:

  • glo
  • haearn
  • dur
  • adeiladu llongau

Roedd y diwydiannau hynny eisoes mewn trafferthion oherwydd nad oedden nhw wedi moderneiddio ar ôl y rhyfel, ac effeithiwyd yn ddrwg arnyn nhw gan gystadleuaeth o wledydd eraill. Yn anffodus chwalodd y diwydiannau hyn.

Nifer fawr o ddynion â chapiau fflat yn ciwio o gwmpas adeilad
Ciwiau o bobl ddi-waith yn Clydebank, Yr Alban

Er enghraifft, pan gaeodd Gwmni Iard Longau Palmers yn Jarrow yng ngogledd ddwyrain Lloegr, cododd cyfradd ddiweithdra’r dref i 80 y cant a dywedir bod tref Jarrow i bob pwrpas wedi ‘marw’. Cododd diweithdra o 3,245 yn 1929 i 7,178 yn 1933.

Roedd y rhan fwyaf o bobl yn Jarrow naill ai wedi’u cyflogi gan Gwmni Iard Longau Palmers neu’n dibynnu arni am eu bywoliaeth. Dechreuodd yr iard ddirywio ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ond erbyn dechrau’r 1930, roedd yr iard yn rhy fach o lawer i adeiladu llongau modern y cyfnod.

curriculum-key-fact
Dioddefodd Cwm Rhondda hefyd o ganlyniad i gynnydd dramatig mewn diweithdra. Roedd yn ardal o ddiweithdra difrifol, lle’r oedd y gyfradd ddiweithdra dros 40 y cant.

Cylch dieflig – effaith diweithdra

Nid oedd y 2.5 miliwn oedd yn ddi-waith yn cael cyflog a doedden nhw ddim yn gallu prynu pethau. Effeithiodd hynny ar y galw am nwyddau a gynhyrchwyd ym Mhrydain, ac aeth mwy o fusnesau i’r wal, ac arweiniodd hynny at fwy o ddiweithdra.

Ni helpwyd y broblem gan y ffaith nad oedd y budd-dal diweithdra (y dôl) yn ddigon i dalu am gostau sylfaenol megis bwyd a dillad.

Pobl yn ymgasglu o gwmpas dyn yn gweini bwyd poeth o gynwysyddion
Y Lleng Prydeinig yn agor depo bwyd ar gyfer y di-waith