Yr Oes Aur

Yn 1923, roedd Gweriniaeth Weimar ar fin cwympo, ond, yn annisgwyl, bu’r argyfwng yn ddechrau cyfnod o sefydlogrwydd a ffyniant. Roedd y cyfnod 1923-1929 yn adeg pan oedd yr economi’n ffynnu a bywyd diwylliannol yn blodeuo yn yr Almaen. Fe’i gelwir yn Oes Aur Weimar.

Digwyddodd y gweddnewidiad hwn oherwydd i’r Almaen gael ei hachub gan ddau unigolyn, Gustav Stresemann a Charles Dawes.

Datblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol 1923-1929

Gustav Stresemann

Portread o Gustav Stresemann.
Gustav Stresemann

Sylweddolodd Gustav Stresemann, gwleidydd cenedlaetholgar, fod angen gwneud rhywbeth i achub yr Almaen. Fe oedd y gwleidydd pwysicaf rhwng 1923 a 1929, serch hynny, dim ond am ychydig fisoedd y goroesodd fel Canghellor llywodraeth glymblaid. Roedd yn aelod blaenllaw o bob llywodraeth rhwng 1923 a 1929, a'i brif rôl oedd Gweinidog Tramor.

Ei weithred gyntaf yn 1923 oedd trefnu’r Glymblaid Fawr o bleidiau cymedrol, o blaid democratiaeth, yn y Reichstag. O’r diwedd, roedd gan yr Almaen lywodraeth a allai lunio deddfau. Dan arweiniad Stresemann, rhoddodd y llywodraeth derfyn ar y streic, gan berswadio’r Ffrancod i adael y Ruhr a newidiodd yr arian cyfred i'r Rentenmark a helpodd i roi diwedd ar gorchwyddiant.

Cyflwynodd Stresemann ddiwygiadau hefyd i helpu pobl gyffredin, fel canolfannau gwaith, tâl diweithdra a thai gwell.

Datblygiadau economaidd 1923-1929

Charles Dawes

Portread o Charles Dawes.
Charles Dawes

Charles Dawes oedd cyfarwyddwr cyllideb yr Unol Daleithiau. Yn 1923, cafodd ei anfon i Ewrop i roi trefn ar economi’r Almaen. Dan ei gyngor, diwygiwyd Reichsbank yr Almaen a chafodd yr hen arian eu casglu i mewn a’u llosgi. Dyna roi terfyn ar y gorchwyddiant. Trefnodd Dawes Gynllun Dawes hefyd gyda Stresemann, a roddai fwy o amser i’r Almaen i dalu iawndal. Yn bwysicaf oll, cytunodd Dawes y byddai America’n rhoi benthyg 800 miliwn marc aur i’r Almaen, a roddodd hwb i economi’r Almaen.

Wedi gostwng yr iawndaliadau rhyfel yn sgil Cynllun Dawes yn 1924, cafwyd newidiadau pellach i’r iawndaliadau gyda Chynllun Young yn 1929.

Owen Young

Arweinydd y pwyllgor a edrychodd ar gwestiwn yr iawndal oedd Owen Young, diwydiannwr o America. Pwyllgor a benodwyd gan y Pwyllgor Iawndaliadau Cynghreiriol oedd hwn. Ymgais i gefnogi’r Almaen trwy ei phoen ariannol oedd y cynllun terfynol.

  • Lleihawyd y taliadau o dri chwarter.
  • Estynnwyd yr amser a roddwyd i’r Almaen i dalu i 59 o flynyddoedd.
  • Lleihawyd yr iawndaliadau i 37,000 miliwn marc. Roedd y swm gwirioneddol yr oedd gofyn ei ad-dalu bob blwyddyn yn rhan o Gynllun Young, gyda’r bwriad o gefnogi’r Almaen.
  • Roedd rhaid i’r Almaen dalu traean o’r swm gofynnol bob blwyddyn fel rhan o gytundeb gorfodol – sef tua $157 miliwn.
  • Ond doedd dim rhaid talu’r ddau draean arall oni bai fod yr Almaen yn gallu fforddio gwneud hynny mewn modd na fyddai’n niweidio’i datblygiad economaidd.

Goblygiadau arweinyddiaeth Stresemann, Cynllun Dawes ac Young

Llwyddiant

  • Gwellodd yr economi gyda diweithdra'n gostwng, cynnydd mewn cynhyrchiant ffatrïoedd, a mwy o hyder.
  • Cafwyd cynnydd yn nifer y pleidleisiau i bleidiau gwleidyddol oedd yn cefnogi democratiaeth a Gweriniaeth Weimar.
  • Ni wnaeth y Comiwnyddion a'r Natsïaid yn dda yn yr etholiadau o gymharu â'r pleidiau a gefnogai Gwerinaeth Weimar. Dim ond 12 o seddi oedd gan y Natsïaid yn y Reichstag yn 1928.

Problemau

  • Roedd Cytundeb Versailles dal yn ei le ac yn llym iawn ar yr Almaen.
  • Roedd Pact Locarno yn gwneud y tir a gollwyd o dan Gytundeb Versailles yn rhywbeth parhaol.
  • Roedd nifer y milwyr yn brin o hyd, felly roedd yr Almaen yn dal i deimlo'n wan ac yn ddi-amddiffyn.
  • Parhaodd yr Almaen i dalu iawndaliadau.
  • Roedd pleidleiswyr dal yn amheus o Ddemocratiaeth. Roedd y Comiwnyddion dal yn fygythiad posib; roedd y Natsïaid yn ail-adeiladu trefniadaeth eu plaid.
  • Nid oedd sefydliadau pwysig yr Almaen, fel y fyddin a'r barnwyr, yn gwbl argyhoeddedig ynglŷn â chefnogi Gweriniaeth Weimar.
  • Roedd adfer economi'r Almaen yn ddibynnol ar fenthyciadau o'r Unol Daleithiau o dan Gynllun Dawes.
  • Bu farw Gustav Stresemann, y gwleidydd oedd yn gyfrifol am wella rhywfaint ar yr Almaen, yn 1929.