Mae llawer o wahanol fathau o ecosystemau yn y byd, pob un â’i rannau a’i nodweddion rhyngweithiol ei hun. Maen nhw’n amrywio o ecosystemau bach, fel pwll dŵr croyw, i ecosystemau byd-eang, fel diffeithdir.
Beth yw rhannau byw ecosystem?
Fflora, ffawna a bacteria
Fflora a bacteria
Fflora a ffawna
Beth yw rhannau anfyw ecosystem?
Bacteria a ffawna
Hinsawdd, pridd a dŵr
Beth yw bïom?
Ecosystem
Ecosystem ar raddfa fawr
Cynefin
Ble mae bïom y Twndra?
Ar y Cyhydedd
Ger pegynau’r gogledd a’r de
Rhwng Trofan Cancr a Throfan Capricorn
Beth yw cadwyn fwyd?
Mae cadwyn fwyd yn cynnwys yr holl gysylltiadau rhwng cynhyrchwyr mewn ecosystem
Mae cadwyn fwyd yn cynnwys yr holl gysylltiadau rhwng ysyddion mewn ecosystem
Mae cadwyn fwyd yn dangos y perthnasoedd syml rhwng organebau mewn ecosystem, ac yn dangos pa organeb sy’n bwyta beth
Pa ecosystem ar raddfa fawr fyddech chi’n disgwyl ei gweld ar y Cyhydedd?
Coedwigoedd glaw trofannol
Diffeithdiroedd
Coedwigoedd conwydd
Ym mha haen y mae 50 y cant o fywyd coedwig law i’w weld?
Yr haen ymwthiol
Y prif ganopi
Yr is-ganopi
Sut y gellir rheoli coedwigoedd glaw trofannol yn well yn y dyfodol a’u diogelu?
Gellid codi ffensys a rhwystrau mawr o amgylch y goedwig law
Gellid dynodi ardaloedd yn barciau cenedlaethol, sy’n golygu bod deddfau llym yn cael eu cyflwyno er mwyn atal torri coed anghyfreithlon a defnydd arall anghyfreithlon
Gellid annog ymwelwyr i ymweld
Am ba ecosystem ar raddfa fach y mae Merthyr Mawr yn adnabyddus?
Coedwig law drofannol
Twyn tywod
Coedwig fangrof
Pa effaith amgylcheddol gadarnhaol fydd yn dod yn sgil morlyn llanw Bae Abertawe?
Bydd yn darparu swyddi i bobl leol
Bydd yn helpu i sefydlu gwlyptir newydd ac ecosystem twyn tywod
Byddai organebau morol hollbwysig yn cael eu dinistrio yn ystod y cyfnod adeiladu