Ecosystemau ar raddfa fach – twyni tywod

Mae arfordiroedd gogledd a de Cymru yn adnabyddus am eu traethau tywodlyd hardd, sy’n eu gwneud yn gyrchfannau gwyliau poblogaidd i ymwelwyr o'r DU a rhannau eraill o’r byd. Y tu ôl i lawer o’r traethau hyn mae systemau twyni tywod sy’n darparu cartrefi i fathau amrywiol o fywyd gwyllt, gan gynnwys planhigion a phryfed, rhai mor arbenigol fel bod perygl y byddent yn darfod oni bai am y cynefinoedd twyni hyn. Mae’r twyni tywod hyn hefyd yn rhwystr naturiol hanfodol rhag grym y tonnau.

Planhigion yn sefydlu

Wrth i dwyni tywod sefydlu, mae planhigion yn dechrau ffurfio a thyfu arnynt. Mae llystyfiant cynradd yn rhoi sefydlogrwydd i’r twyni tywod, sydd yn eu tro’n dal y tywod. Yna mae gwynt yn cael ei wyro dros y gefnen a’r llystyfiant, gan greu cysgod fel bod planhigion mwy yn gallu tyfu a sefydlu.

Olyniaeth planhigion ar dwyn tywod.Mae’r twyni tywod yn tyfu ac yn sefydlu olyniaeth o blanhigion a bywyd gwyllt
Llwybr tywodlyd i ben y twyni a thwmpathau o laswellt yn tyfu bob ochr iddo.

Mae’r twyni tywod ym Merthyr Mawr yn anarferol iawn, oherwydd maen nhw wedi ffurfio yn erbyn llwyfandir calchfaen carbonifferaidd sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin ar hyd yr arfordir. Mae hyn y golygu mai twyni Merthyr Mawr yw’r rhai uchaf ond un yn Ewrop. Mae’r warchodfa hon hefyd yn cynnwys enghreifftiau o gamau olynol y broses o ffurfio twyni, o dywod moel, egin-dwyni i dwyni sefydlog (ymhellach oddi wrth yr arfordir) a llaciau twyni.

Mae’r safle’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd y rhywogaethau toreithiog o blanhigion a phryfed sy’n byw yno.

Mae llawer o’n systemau twyni tywod, a’r cynefinoedd a’r rhywogaethau sy’n dibynnu arnyn nhw, wedi’u diogelu drwy ddeddfwriaeth y DU a deddfwriaeth ryngwladol. Er gwaetha’r deddfwriaethau hyn, mae cydnabyddiaeth gynyddol i’r ffaith y bydd llawer o’r rhywogaethau hyn yn darfod cyn bo hir os nad oes rhagor yn cael ei wneud i’w diogelu.

Effeithiau pobl ar dwyni tywod ac amgylcheddau arfordirol yng Nghymru

Ar hyd arfordir de Cymru, mae datblygiadau mawr, fel twf trefi a dinasoedd, ehangu rhwydweithiau trafnidiaeth a chyfleusterau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer ymwelwyr wedi rhoi llawer o bwysau ar dwyni tywod. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae’r galw am ffynhonnell egni adnewyddadwy fwy gwyrdd wedi cyflwyno problem bosibl arall.

Yn Abertawe, mae cynlluniau i adeiladu morlyn llanw mawr. Os bydd y cynlluniau’n cael eu cymeradwyo byddant yn creu egni glân i’r ddinas drwy ddefnyddio grym y llanw i gynhyrchu trydan.

Effeithiau cymdeithasol

Bydd y morlyn llanw yn helpu i ddiwallu anghenion y boblogaeth mewn dinas sy’n tyfu. Bydd dros 2,000 o bobl yn cael cyfleoedd gwaith hefyd yn ystod y cyfnod adeiladu, a bydd cannoedd yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i wneud gwaith cynnal a chadw ac i redeg y morlyn.

Effeithiau economaidd

Mae’r cynllun, a fydd yn costio tua £1.3 biliwn, yn risg fawr i fuddsoddwyr ac i’r trethdalwr, a fydd yn helpu i ariannu’r prosiect hwn. Mae disgwyl i’r prosiect gyfrannu £316 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros i economi Cymru yn ystod y cyfnod adeiladu, yna £76 miliwn ym mhob un o’r 120 o flynyddoedd y bydd yn weithredol – felly gallai fod yn fuddsoddiad proffidiol.

Effeithiau amgylcheddol

Mae’r cwmni sydd y tu ôl i ddatblygiad y morlyn yn bwriadu ‘gwneud i natur ffynnu’. Bydd rhwydwaith o gynefinoedd a gwarchodfeydd gwlyptir yn cael eu datblygu, gan gynnwys fflatiau llaid a morfeydd heli. Bydd y morlyn hefyd yn ffordd o ymaddasu i newid hinsawdd. Bydd yn darparu cyfleusterau hamdden cymunedol, twristiaeth, amddiffynfa arall rhag llifogydd, ac addysg i ddod â phobl yn nes at natur. Yn ychwanegol at hyn, bydd llai o allyriadau tanwydd ffosil, gan fod egni’r llanw yn ffynhonnell egni adnewyddadwy a glân.

Os bydd y cynlluniau’n llwyddiannus a’r addewidion yn cael eu gwireddu, gallai morlyn llanw Bae Abertawe baratoi’r ffordd ar gyfer llawer o gynlluniau eraill tebyg yn y rhanbarth.

Lleoliad morlyn llanw Bae Abertawe a safleoedd morlynnoedd arfaethedig eraill yn ne’r DU.

Rhagor o effeithiau dynol ar gylchredau, llifoedd a phrosesau naturiol

Pan mae pobl yn ymyrryd ag ecosystemau naturiol, mae’r cylchredau maetholion a dŵr naturiol hefyd yn cael eu haddasu. Gall hyn hefyd effeithio ar lifoedd naturiol gwaddod ar hyd traeth neu i lawr afon, gan aflonyddu arnynt a’u newid.

Move on to Video
next