Mae llawer o wahanol fathau o ecosystemau yn y byd, pob un â’i rannau a’i nodweddion rhyngweithiol ei hun. Maen nhw’n amrywio o ecosystemau bach, fel pwll dŵr croyw, i ecosystemau byd-eang, fel diffeithdir.
Mae’n bosibl rheoli coedwigoedd glaw trofannol yn y ffyrdd a ganlyn er mwyn lleihau datgoedwigo.
Torri ac ailblannu coed – mae torri coed aeddfed drwy eu dethol yn ffordd o sicrhau bod canopi’r goedwig law’n cael ei gadw. Mae’r dull hwn yn caniatáu i’r goedwig ddod ati ei hun, gan fod y coed iau’n cael mwy o le a golau haul i dyfu. Mae torri coed drwy ddull sy’n cael ei gynllunio a’i reoli yn sicrhau bod coeden yn cael ei phlannu am bob coeden sy’n cael ei thorri.
Addysg – hyrwyddo gwerth a buddion bioamrywiaeth sy'n gysylltiedig â choedwigoedd glaw trofannol.
Ecodwristiaeth – mae hyn yn annog twristiaeth gynaliadwy sy’n creu swyddi i bobl leol, tra’n sicrhau bod yr arian sy’n cael ei gynhyrchu yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu a chadw’r goedwig law drofannol, fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu ei mwynhau.
Cytundebau rhyngwladol – mae cytundebau i ddiogelu coedwigoedd glaw trofannol wedi cael eu gwneud rhwng gwahanol wledydd drwy gyfnewidiadau dyled-am-natur. Mae hyn yn digwydd pan fo gwlad, y mae arian yn ddyledus iddi gan wlad arall, yn canslo rhan o’r ddyled os yw’r wlad sydd mewn dyled yn gwneud cytundeb i sicrhau bod ei choedwigoedd glaw trofannol yn cael eu gwarchod.
Creuparciau cenedlaethol – un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn ardal naturiol o dir yw drwy greu parc cenedlaethol. Bwriad parciau cenedlaethol yw gwarchod harddwch naturiol a bywyd gwyllt ardal. Mae deddfau llym yn cael eu gwneud er mwyn atal pobl rhag addasu parciau cenedlaethol, a rhaid cywiro unrhyw ddifrod sydd wedi cael ei wneud neu dalu dirwyon mawr. Mae’n bosibl sefydlu coridorau bywyd gwyllt mewn parciau cenedlaethol hefyd er mwyn rhoi rhagor o amddiffyniad i’r ardal ac annog bywyd gwyllt i ffynnu rhwng gwahanol rannau o goedwig law.
Rheolaeth gynaliadwy – coedwig law Costa Rica
Mae llywodraeth Costa Rica wedi gweithredu’r polisïau a ganlyn er mwyn gwarchod y goedwig law drofannol a sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu ei mwynhau.
Cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o werth coedwigoedd glaw trofannol drwy addysg.
Cynnwys cymunedau lleol a’u cael i gymryd rhan mewn prosiectau gwarchod coedwigoedd.
Annog pobl i ddefnyddio ffynonellau pren amgen, fel coed rwber.
Torri coed aeddfed a hyfyw o safbwynt masnachol, drwy ddull dethol, dros gylch o 40 mlynedd, er mwyn sicrhau bod y coed yn cael amser i ailsefydlu. Mae hyn yn cael ei alw yn system reoli ddethol.
Hybu a datblygu ecodwristiaeth mewn ardaloedd coedwigoedd trofannol.
Mae’r llywodraeth wedi creu ystadau coedwigoedd parhaol lle nad oes gan neb hawl i newid defnydd tir.
Creu parciau cenedlaethol er mwyn gwarchod bioamrywiaeth.