Bygythiadau i’r goedwig law drofannol

Mae coedwigoedd glaw trofannol Basn Amazonas yn wynebu bygythiad datgoedwigo. Mae datgoedwigo yn digwydd am y rhesymau a ganlyn.

  • Ffermio bugeiliol – wrth i’r galw byd-eang am gig gynyddu, mae llawer o ffermydd gwartheg wedi agor ym Masn Amazonas i gynhyrchu cig eidion. Mae’r math hwn o ffermio yn ddull ungnwd oherwydd ei fod yn defnyddio un ffynhonnell anifeiliaid (da byw).
  • Ffermio âr – mae hyn hefyd yn arwain at golli coedwigoedd glaw trofannol gan fod llawer o ffermwyr yn clirio tir i dyfu cnydau gwerthu, fel ffa soia. Mae’r math hwn o ffermio yn ddull dwys, hynny yw, mae ffermwyr yn cynhyrchu cnydau cynnyrch uchel drwy ddefnyddio gwahanol fathau o wrteithiau a phlaleiddiaid.
  • Torri coed – mae coedwigoedd glaw’n cael eu torri er mwyn cael lle i fynd at goed gwerthfawr fel coed mahogani a’u gwerthu fel pren i wneud dodrefn. Mae coed eraill yn cael eu torri i wneud cynnyrch papur.
  • Mwyngloddio – mae Basn Amazonas yn llawn adnoddau naturiol fel mwyn haearn, copr, tun, alwminiwm, manganîs ac aur. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu mwyngloddiau, a chlirio coedwigoedd glaw trofannol. Mwynglawdd Carajas ym Mrasil yw’r mwynglawdd haearn mwyaf yn y byd.
  • Ffyrdd – mae adeiladu ffyrdd mynediad i ffermwyr, coedwigwyr a mwyngloddwyr yn golygu bod rhannau helaeth o’r goedwig law drofannol yn cael eu dinistrio. Mae hefyd yn golygu bod coedwig law nad oedd yn cael ei defnyddio cyn hyn yn agored i’w datblygu.
  • Pŵer trydan dŵr – mae creu gorsafoedd pŵer trydan dŵr ym Masn Amazonas wedi golygu bod rhannau mawr o goedwigoedd yn cael eu boddi i greu cronfeydd dŵr ac argaeau. Pan adeiladwyd argae Balbina ym Mrasil cafodd 920 milltir sgwâr o goedwigoedd trofannol eu boddi.
  • Poblogaeth – mae twf yn y boblogaeth wedi arwain at golli coedwigoedd trofannol gan fod tir yn cael ei glirio i godi tai ac isadeiledd.

Effeithiau colli coedwigoedd glaw trofannol

Mae effeithiau datgoedwigo Basn Amazonas yn cynnwys y canlynol.

Erydiad pridd

Pan mae llystyfiant coedwig law wedi cael ei glirio mae’r pridd yn foel. Pan mae’n bwrw glaw, mae’r maetholion yn y pridd yn cael eu golchi i ffwrdd. Mae’r gylchred faetholion yn cael ei hatal oherwydd does dim planhigion a choed sy’n colli dail i roi maetholion yn ôl yn y pridd. Nid yw’r pridd yn gallu cynnal planhigion mwyach oherwydd nid yw’n ffrwythlon. Nid yw gwreiddiau planhigion a choed yn dal y pridd at ei gilydd mwyach felly mae’n cael ei erydu’n hawdd.

Cylch maetholion ar ôl datgoedwigo.Pan fydd ecosystem wedi cael ei heffeithio gan ddyn, bydd cylchredau a llifoedd naturiol hefyd yn newid

Colli bioamrywiaeth

Mae llawer o wahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn marw o ganlyniad i ddatgoedwigo. Gan fod cysylltiad agos rhwng planhigion ac anifeiliaid, drwy’r we fwyd, mae hyn yn lleihau’r bioamrywiaeth, neu’r amrywiaeth o rywogaethau, sydd i’w gweld yn y goedwig law drofannol.

Newid hinsawdd

Mae coed a phlanhigion Basn Amazonas yn amsugno carbon deuocsid yn ystod y broses ffotosynthesis. Os oes llai o goed a phlanhigion o ganlyniad i ddatgoedwigo, yna bydd llai o garbon deuocsid yn cael ei dynnu o’r atmosffer. Mae hyn yn golygu bod datgoedwigo yn cyfrannu tuag at gynhesu byd-eang ac, o ganlyniad, at newid hinsawdd.

Datblygu economaidd

Mae creu mwyngloddiau, ffermydd a ffyrdd, sy’n achosi datgoedwigo, hefyd wedi arwain at ddatblygu economaidd. Mae’r arian sy’n cael ei greu drwy’r mentrau hyn yn caniatáu i wlad gynhyrchu incwm tramor. Mae’n bosibl defnyddio’r incwm hwn wedyn i dalu dyledion neu mae’n bosibl ei fuddsoddi mewn rhagor o brosiectau datblygu.