Mae gan Gristnogion wahanol safbwyntiau o ran deongliadau o greu'r bydysawd. Maen nhw'n credu bod y Ddaear yn perthyn i Dduw, ac mai stiwardiaid sy'n gyfrifol am ofalu amdani yw pobl.
Fel stiwardiaid sydd wedi eu creu gan Dduw, nid yw cyfrifoldeb dynolryw wedi ei gyfyngu i'r Ddaear gorfforol, ond i weddill dynolryw hefyd.
Mae dinasyddiaeth fyd-eang yn cyfeirio at weithio fel cymuned i ofalu am y byd. Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn credu dylai pob bod dynol ei ystyried ei hun yn ddinesydd byd-eang a gweithio fel aelod o dîm i ofalu am y blaned. Gall pawb gymryd camau yn eu bywydau i sicrhau eu bod nhw'n ymddwyn fel dinasyddion byd-eang, er enghraifft:
Eto gwnaethost ef (y bod dynol) ychydig islaw duw a'i goroni â gogoniant ac anrhydedd. Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei draed.Salm 8.5–6
Mae OXFAM yn diffinio dinesydd byd-eang fel rhywun sydd:
Beth mae Cristnogion yn ei olygu wrth ddinasyddion byd-eang?
Mae'r term dinesydd byd-eang yn cyfeirio at y syniad y dylai pob bod dynol weithio fel rhan o gymuned i ofalu am y byd. Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi gwneud bodau dynol yn stiwardiaid i'r Ddaear, ac felly y dylai pawb ymddwyn fel dinasyddion byd-eang.