Mae gan Gristnogion wahanol safbwyntiau o ran deongliadau o greu'r bydysawd. Maen nhw'n credu bod y Ddaear yn perthyn i Dduw, ac mai stiwardiaid sy'n gyfrifol am ofalu amdani yw pobl.
Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn credu bod Duw wedi rhoi cyfrifoldeb arbennig i fodau dynol o fewn y creu i'w drin, ei warchod a'i ddefnyddio'n ddoeth. Stiwardiaeth yw hyn. Mae'n rhaid i ddynoliaeth weithio o fewn y creu a gofalu amdano:
Cymerodd yr Arglwydd Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw.Genesis 2:15
Mae popeth wedi'i roi i fodau dynol ar gyfer eu hanghenion, sy'n awgrymu y cân nhw ddefnyddio beth bynnag maen nhw ei eisiau o'r creu er mwyn goroesi:
Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth.Genesis 9:3
Fodd bynnag, gan fod y Ddaear yn eiddo i Dduw, rhaid i fodau dynol ei pharchu a'i rhoi'n ôl i Dduw heb ei difetha:
Eiddo'r Arglwydd yw'r ddaear a'i llawnder, y byd a'r rhai sy'n byw ynddo.Salm 24:1
Mae'r darnau hyn o'r Beibl yn dangos mai'r brif neges yw mai Duw yw'r un sy'n darparu ar gyfer bodau dynol ac y dylai bodau dynol ddangos eu bod nhw'n ddiolchgar drwy ofalu am y pethau mae Duw wedi eu rhoi iddyn nhw.
Mae'r Datganiad Cristnogol ar Natur a gafodd ei lunio yn Assisi yn 1986 yn gwneud y pwyntiau canlynol yn glir iawn: