Cristnogaeth a gwyddoniaeth

I lawer o Gristnogion, does dim gwrthdaro rhwng y syniadau crefyddol am y creu sydd i'w gweld yn Genesis â chanfyddiadau gwyddoniaeth.

quote
Dydy Genesis ddim yno i roi atebion cyflym, technegol ynglŷn â sut dechreuodd y bydysawd. Mae'n rhoi'r ateb mawr, sef bod pethau'n bodoli oherwydd ewyllys Duw. Mae'n ddigon posibl i rywun gredu yn y Glec Fawr, ond credu ei bod wedi digwydd drwy ewyllys Duw y creawdwr.Yr Athro John Polkinghorne, gwyddonydd ac offeiriad Anglicanaidd

Cosmoleg

Ystyr cosmoleg yw astudio'r bydysawd, a lle dynolryw ynddo.

Un o'r damcaniaethau mae cosmolegwyr wedi eu cyflwyno yw damcaniaeth y Glec Fawr. Mae hon yn awgrymu bod ffrwydrad enfawr wedi digwydd tua 15 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Dyma'r adeg pan ddechreuodd yr holl fater yn y bydysawd. Dechreuodd gofod ac amser ar yr adeg honno hefyd. Dros amser, ymddangosodd y bydysawd rydyn ni'n ei adnabod, a bywyd bodau dynol ac anifeiliaid.

Yn gyffredinol, mae gwyddonwyr yn derbyn mai hon yw'r ddamcaniaeth orau sydd ganddyn nhw i esbonio tarddiad y bydysawd.

Os yw damcaniaeth y Glec Fawr yn wir, gallai hynny olygu mai 'dim ond digwydd' wnaeth y bydysawd, ac nad oedd hynny o ganlyniad i weithgarwch Duw fel creawdwr.

Mae llawer o Gristnogion yn hapus i dderbyn Damcaniaeth y Glec Fawr. Maen nhw'n gweld y cosmolegwyr yn eu helpu nhw i ddeall sut gwnaeth Duw ffurfio'r byd - efallai fod Duw wedi defnyddio mecanwaith y Glec Fawr. A does dim byd yn y ddamcaniaeth ei hun sy'n profi nad yw Duw yn bod.

Bioleg esblygiadol

Awstin Sant, mor gynnar â'r 4edd ganrif OC, oedd y cyntaf i sôn am y syniad y gallai bywyd fod wedi esblygu. Ysgrifennodd ef am ei syniad mai dim ond bodau byw syml iawn gafodd eu creu gan Dduw, a bod y rhain wedi datblygu dros amser.

Heddiw, rydyn ni'n cysylltu gwyddoniaeth esblygiadol â gwyddonwyr fel Charles Darwin a ysgrifennodd On the Origin of Species yn 1859. Ei ddadl ef oedd bod bywyd wedi dechrau â chelloedd syml iawn, cyn datblygu i'r hyn rydyn ni'n ei weld heddiw. Dywedodd mai dethol naturiol oedd un o'r prif fecanweithiau sy'n achosi esblygiad.

Roedd safbwyntiau Darwin yn gwneud llawer o bobl yn anhapus, ac roedd hyd yn oed rhai gwyddonwyr uchel eu parch, fel Philip Gosse, yn dadlau bod y ffosiliau wedi cael eu rhoi yn y ddaear gan Dduw yn fwriadol er mwyn twyllo pobl.

Roedd rhai Cristnogion yn gweld damcaniaeth Darwin fel bygythiad i'w ffydd, gan ei bod yn ymddangos ei bod yn herio awdurdod y Beibl. Os oedd y Beibl yn anghywir am hyn, a allai fod yn anghywir am bethau eraill hefyd? Roedd yn well gan y Cristnogion hyn gadw dealltwriaeth 'llythrenolwr' neu 'greadydd' o Genesis penodau 1 a 2.

Dydy Cristnogion eraill ddim yn gweld problem â'u dealltwriaeth o Genesis a'r damcaniaethau gwyddonol, megis esblygiad. Mae hyn yn wir am wyddonwyr sydd hefyd yn Gristnogion, ac am Gristnogion sydd ddim yn wyddonwyr. Os yw gwyddoniaeth a chrefydd yn gofyn cwestiynau gwahanol, dydyn nhw ddim yn gweld unrhyw wrth-ddweud.

Mae Cristnogion sydd ddim yn gweld problem ag esblygiad yn gweld y Beibl fel disgrifiad awdurdodol o berthynas Duw â bodau dynol a'r bydysawd ehangach. Maen nhw'n gweld popeth fel rhan o gynllun Duw, ac yn credu bod gan fodau dynol hawliau a chyfrifoldebau arbennig o ganlyniad i hynny. Mae'n debyg mai dyma yw barn y rhan fwyaf o Gristnogion yng Nghymru ar hyn o bryd.