Rôl yr Eglwys a’r mynachlogydd

Roedd yr Eglwys yn chwarae rôl flaenllaw o ran gofal cleifion yn yr Oesoedd Canol. Roedd yr Eglwys yn dysgu bod gofalu am bobl wael yn rhan o ddyletswydd Gristnogol, a’r Eglwys oedd yn darparu gofal ysbyty. Roedd yr Eglwys hefyd yn ariannu’r prifysgolion, ble’r oedd meddygon yn cael eu hyfforddi.

Ysbytai Hôtel-Dieu de Paris
Ysbytai Hôtel-Dieu de Paris. Dyma un o’r ychydig luniau o du mewn i ysbyty canoloesol

Roedd tua 1,200 o lefydd yng Nghymru a Lloegr oedd yn disgrifio eu hunain fel 'ysbytai'. Roedd bron bob un yn cael eu rhedeg gan yr eglwys. Roedd nifer yn glafdai mewn mynachlogydd, ee Tyndyrn, Glyn y Groes ac Ystrad Fflur, neu dai crefyddol eraill, ee ffrierdai Caerdydd a Bangor.

Ond, roedd yr ysbytai canoloesol yma yn wahanol iawn i ysbytai modern.

  • Roedden nhw'n cael eu rhedeg gan fynaich neu leianod ac roedd lles ysbrydol claf yr un mor bwysig â’i anghenion meddygol.
  • Gwybodaeth feddygol elfennol yn unig oedd gan y mynachod (er mae’n debyg mai nhw oedd y bobl fwyaf cymwys i wneud y gwaith).
  • Roedd rhai pobl yn cael eu gwahardd, ee rhai â chlefydau ymledol, gwahangleifion, y gwallgof a chripiliaid. Credid y byddai’r rhain yn heintio eraill.

Ysbytai canoloesol

Siart cylch yn dangos sut y defnyddiwyd ysbytai canoloesol – 10% i ofalu am bobl sâl, 47% yn gartref i’r henoed a’r tlawd, 12% yn helpu pererinion a theithwyr tlawd, 31% fel ysbytai i’r gwahanglwyfus.

Mae’r siart yma yn dangos mai dim ond 10 y cant o ysbytai canoloesol oedd yn gofalu am gleifion yn y ffordd y mae ysbytai modern yn gwneud hynny. Roedden nhw'n cael eu galw yn ysbytai oherwydd eu bod yn darparu lletygarwch (hospitality), hynny yw roedden nhw'n llefydd i orffwys a gwella. Mewn gwirionedd elusendai oedd y rhan fwyaf o’r ysbytai ar gyfer yr henoed a’r eiddil, oedd yn darparu nyrsio elfennol, ond dim triniaeth feddygol. Roedd ysbytai eraill, ee Ysbyty Ifan yng Nghlwyd wedi eu lleoli ar lwybrau pererindod pwysig ac wedi cael eu sefydlu i fod yn westai ar gyfer pererinion.

curriculum-key-fact
Roedd yna hefyd ysbytai ar gyfer y gwahangleifion. Roedd y rhain wedi eu lleoli ar gyrion trefi fel eu bod ar wahân i weddill y gymuned.

Bimaristan

Mae’n ymddangos bod gofal meddygol gan ffisigwyr neu feddygon wedi bod yn brin mewn ysbytai canoloesol. Roedd yna ambell gyfeiriad at ddarpariaeth o’r fath mewn ysbytai yn Llundain yn ystod diwedd yr Oesoedd Canol, ac yn 1524, er enghraifft, disgwylid bod gan Ysbyty Savoy Harri VII (a sefydlwyd gan y brenin yn 1505) feddyg a llawfeddyg.

Yn yr Oesoedd Canol, roedd y byd Islamaidd ymhell ar y blaen o ran darpariaeth ysbytai. Yn y 1100au roedd yna 60 bimaristan - gair Persaidd sy’n golygu ysbyty - yn Baghdad, pan mai dim ond un oedd yn Llundain. Roedden nhw'n gwasanaethu pobl beth bynnag fo’u hil, crefydd, dosbarth neu ryw, ac roedd wardiau ar wahân ar gyfer gwahanol afiechydon - clefydau meddyliol, clefydau ymledol, clefydau anymledol, llawfeddygaeth a chlefyd y llygaid, ac roedd hynny yn rhywbeth hollol ddieithr yn Ewrop yn y cyfnod.

Roedd pob bimaristan yn cynnwys cegin, fferyllfa, llyfrgell, mosg, a chapel yn achlysurol ar gyfer cleifion Cristnogol. Yn aml roedd cerddorion yn cael eu cyflogi i gysuro a chodi calon cleifion. Roedden nhw hefyd yn ysgolion meddygol ar gyfer hyfforddi myfyrwyr.