Dysga sut i ddarganfod llinellau cymesuredd adlewyrchiad, a sut i adnabod cymesuredd cylchdro, mewn siapiau megis polygonau rheolaidd.
Mae’n bosib cylchdroi petryal hanner tro o amgylch ei ganol. Mae’r canlyniad yn edrych yn union yr un fath â’r petryal gwreiddiol. Cymesuredd cylchdro ydy hyn.
Mae copi o’r seren hon yn ffitio’r seren yn berffaith mewn pum ffordd wahanol.
Rydyn ni’n dweud bod gan y seren gymesuredd cylchdro trefn \({5}\).
Edrycha ar y siapiau hyn. Sawl trefn cymesuredd cylchdro sydd ganddyn nhw?