Mae prosesau erydiad, màs-symudiad a hindreuliad yn torri deunydd yn ddarnau llai ac yn ei symud o’r arfordir. Mae llawer o ffactorau yn effeithio ar gyfraddau erydiad arfordirol a’r tirffurfiau sy’n cael eu creu.
Erydiad arfordirol yw’r broses lle mae’r môr yn treulio’r tir. Mae pedair proses a allai achosi erydiad ar glogwyn:
(Cynnwys Saesneg)
Mae gwaddod yn cael ei gludo gan y tonnau ar hyd y morlin. Enw’r broses o symud y deunydd yw drifft y glannau. Mae tonnau’n cyrraedd yr arfordir ar ongl oherwydd cyfeiriad y prifwynt. Bydd y torddwr yn cario’r deunydd tuag at y traeth ar ongl. Yna bydd y tynddwr yn llifo’n ôl i’r môr, i lawr goleddf y traeth. Mae’r broses yn ailadrodd ei hun ar hyd yr arfordir mewn symudiad igam-ogam.
Mae deunydd traeth yn gallu cael ei symud mewn pedair ffordd wahanol, sef:
(Cynnwys Saesneg)