Mae prosesau erydiad, màs-symudiad a hindreuliad yn torri deunydd yn ddarnau llai ac yn ei symud o’r arfordir. Mae llawer o ffactorau yn effeithio ar gyfraddau erydiad arfordirol a’r tirffurfiau sy’n cael eu creu.
Pan mae’r gwynt yn chwythu dros y môr, mae’n creu tonnau. Mae tonnau’n erydu'r tirwedd ac maen nhw’n ffactor hollbwysig yn y broses o dreulio a siapio’r arfordir. Mae maint ac egni’r don yn dibynnu ar ffactorau penodol:
Mae dau wahanol fath o don - adeiladol a dinistriol. Maen nhw’n gallu effeithio ar y morlin mewn gwahanol ffyrdd. Pan fydd ton yn cyrraedd y lan mae’r dŵr yn rhuthro i fyny’r traeth - dyma’r torddwr. Y dŵr sy’n llifo yn ôl i’r môr yw’r tynddwr. Egni’r torddwr a’r tynddwr sy’n pennu pa fath o don yw hi.
Dyma nodweddion tonnau dinistriol:
Dyma nodweddion tonnau adeiladol:
(Cynnwys Saesneg)