Mae ffracsiynau’n cynrychioli rhan o rif cyfan. Gall ffracsiynau, degolion a chanrannau i gyd rannu’r un gwerthoedd ac fe allai fod yn ddefnyddiol gwybod sut i drosi rhyngddyn nhw.
Ffactorau rhif ydy’r rhifau sy’n rhannu i mewn iddo’n union.
Ffactor cyffredin unrhyw ddau rif cyfan ydy rhif sy’n rhannu i mewn i’r ddau.
Felly mae \({4}\) yn ffactor cyffredin i \({8}\) a \({12}\), gan ei fod yn rhannu i mewn i’r ddau ohonyn nhw. Mae \({2}\) yn ffactor cyffredin i \({2}\) a \({6}\), gan ei fod yn rhannu i mewn i’r ddau ohonyn nhw.
Rwyt ti’n gwybod bod \(\frac{4}{12} = \frac{2}{6} = \frac{1}{3}\)
Mae gan \({4}\) a \({12}\) ffactor cyffredin (\({4}\)), felly gallwn ni ysgrifennu \(\frac{4}{12}\) fel: \(\frac{1}{3}\) (rhannu’r top a’r gwaelod â \({4}\)).
Mae gan \({2}\) a \({6}\) ffactor cyffredin (\({2}\)), felly gallwn ni ysgrifennu \(\frac{2}{6}\) fel \(\frac{1}{3}\) (rhannu’r top a’r gwaelod â \({2}\)).
\({1}\) ydy ffactor cyffredin \({1}\) a \({3}\), felly does dim modd symleiddio \(\frac{1}{3}\). Pan nad ydy hi’n bosib symleiddio ffracsiwn rydyn ni’n dweud bod y ffracsiwn yn ei ffurf symlaf.