Mae daeargrynfeydd ac echdoriadau folcanig yn effeithio ar bobl ym mhob rhan o’r byd. Maen nhw’n cael eu hachosi gan symudiad platiau tectonig. Gall peryglon tectonig ddinistrio adeiladau ac isadeiledd, ac achosi marwolaethau.
Mae daeargrynfeydd yn digwydd yn bennaf mewn rhanbarthau hir, cul ar hyd ffiniau platiau (neu ymylon platiau) o bob math, fel y gwelwn ar y map hwn.
Yn aml iawn, mae llosgfynyddoedd a gweithgaredd daeargrynfaol yn digwydd mewn lleoedd tebyg, mewn cylchfaoedd gweithgaredd cul, fel y gwelwn ar y map. Mae’r cylchfaoedd hyn yn cynnwys:
Ond mae rhai eithriadau pwysig. Mae Ynysoedd Hawaii, sydd i gyd wedi dechrau fel llosgfynyddoedd, wedi’u ffurfio yng nghanol y Cefnfor Tawel, dros 3,200 cilometr o’r ffin plât agosaf. Mae hyn yn cael ei egluro drwy’r ddamcaniaeth 'man poeth'.
Mae Cylch Tân y Môr Tawel i’w weld yn glir ar y map. Mae dros 450 o losgfynyddoedd byw a mud wedi’u lleoli yma. Mae’r ardal hon hefyd yn actif iawn o ran daeargrynfeydd. Mae tua 90 y cant o’r holl ddaeargrynfeydd yn digwydd yng Nghylch Tân y Môr Tawel ac o’i gwmpas.