Cyflwyniad

Stori am blentyndod

Nofel am blentyndod yw O Ran. Mae yna lawer o lyfrau am blentyndod yn Gymraeg, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, hunangofiannau a llyfrau atgofion. Yn wir, mae ysgrifennu am blentyndod yn draddodiad pwysig mewn ffuglen Gymraeg.

Mae’r nofel yn dweud hanes Angharad yn tyfu i fyny, trwy ddyddiau’r ysgol gynradd ac yna’r ysgol uwchradd. Angharad ei hun, fel oedolyn ifanc yn edrych yn ôl ar ei magwraeth, sy’n adrodd y stori. Mae’n stori sy’n cynnwys llawer o brofiadau hapus a normal i blentyn, ond mae yna dristwch dwfn yn rhan ohoni hefyd oherwydd hanes ac amgylchiadau teuluol. Mae yna ddirgelwch yn y nofel, dirgelwch sy’n cael ei ddatrys erbyn diwedd y nofel gan roi cyfle i Angharad gael dechrau newydd mewn bywyd.

Y teitl

Mae teitl y nofel, O Ran, yn ddyfyniad o emyn enwog. Bydd cyfle i ddweud mwy am hynny wrth drafod thema adnabod.

Caerdydd y 1970au

Mae’r nofel wedi’i gosod yng Nghaerdydd yn y 1970au. Mae nifer o leoedd ac adeiladau go iawn yn y ddinas yn cael eu henwi, er enghraifft maestref Yr Eglwys Newydd lle mae Angharad yn byw, ardaloedd eraill o’r ddinas fel Rhiwbeina a Gabalfa, Caeau Llandaf, Ystum Taf, eglwys gadeiriol Llandaf a’r Ysbyty Athrofaol.

Cawn ddarlun yn y nofel o’r gymuned Gymraeg y mae Angharad yn rhan ohoni, ac mae twf addysg Gymraeg yn y cyfnod yn rhan bwysig o’r cefndir. Mae Angharad yn cael ei haddysg gynradd a’i haddysg uwchradd mewn ysgolion Cymraeg ac yn mynd i gapel Cymraeg hefyd. Ond mae hi’n adnabod pobl o’r gymuned ddi-Gymraeg hefyd, fel ei ffrind sy’n byw drws nesaf, ac mae’r ysgol gynradd Gymraeg yn digwydd bod yn union wrth ymyl ysgol gynradd cyfrwng Saesneg. Rydyn ni'n cael cip, drwy lygaid plentyn, ar ddinas lle mae nifer o gymunedau gwahanol yn cyd-fyw, gan gynnwys y Cymry Cymraeg sydd wedi dod yno o rannau eraill o Gymru i fyw, fel teulu Angharad ei hun.

Mae’r nofel yn cynnwys nifer o gyfeiriadau at raglenni teledu, bwyd a diod, teganau a ffasiwn y 1970au a thrwy hyn rydyn ni'n cael blas ar fywyd y cyfnod. Prin yw’r digwyddiadau hanesyddol y mae’r nofel yn cyfeirio atyn nhw, er bod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978, yn achlysur pwysig yn y stori.