Gelli di ddefnyddio llinellau croestoriadol a pharalel i ganfod yr onglau mewn triongl. Mae llinellau croestoriadol yn croesi ei gilydd. Dydy llinellau paralel byth yn croesi ei gilydd.
Mae llinellau paralel yn cael eu marcio â saethau.
Mae llinellau hafal o ran hyd yn cael eu marcio â llinellau cwta.
Yn y diagram isod, mae \({DE}\) yn baralel i \({AC}\), ac mae \({AB} = {CB}\).
a) Canfydda faint ongl \({a}\). Rho reswm dros dy ateb.
b) Canfydda faint ongl \({c}\). Rho reswm dros dy ateb.
c) Canfydda faint ongl \({b}\). Rho reswm dros dy ateb.
ch) Canfydda faint ongl \({e}\). Rho reswm dros dy ateb.
a) \({a} = {40}^\circ\) (ongl gyfatebol i ongl \({D}\))
b) \({c} = {40}^\circ\) (\({AB} = {CB}\), felly \({ongl~a} = {ongl~c}\))
c) \({b} = {100}^\circ\) (onglau mewn triongl yn adio i \({180}^\circ\))
ch) \({e} = {140}^\circ\) (mae \({e}\) ac \({c}\) yn onglau cydfewnol)