Gelli di ddefnyddio llinellau croestoriadol a pharalel i ganfod yr onglau mewn triongl. Mae llinellau croestoriadol yn croesi ei gilydd. Dydy llinellau paralel byth yn croesi ei gilydd.
Pan fydd dwy linell yn croesi, mae’r onglau cyferbyn (\({X}\)) yn hafal:
Ar linellau paralel, mae onglau eiledol (\({Z}\)) yn hafal:
Ar linellau paralel, mae onglau cyfatebol (\({F}\)) yn hafal:
Ar linellau paralel, mae onglau cydfewnol (\({C}\)) yn adio i wneud \({180}^\circ\):