Y rhwyg rhwng gogledd a de’r DU

Caiff ei gydnabod ers amser maith bod rhwyg rhwng y gogledd a'r de yn y DU.

Beth yw’r rhwyg?

Er bod gwariant y llywodraeth ar wasanaethau cyhoeddus yn gymharol gyfartal ledled y wlad, mae llawer o fusnesau yn penderfynu ymsefydlu yn y de oherwydd dyna ble mae’r busnesau mawr ac mae’r seilwaith eisoes yn ei le. Mae hyn yn creu bwlch cyfoeth mawr, a gall y rheini sy’n byw yng ngogledd y wlad wynebu incwm is, lefel diweithdra uwch a safonau byw is na’r rheini sy’n byw yn y de.

Mae'r rhwyg rhwng gogledd a de’r DU yn gwahanu Caerloyw, Caerlŷr, Lincoln a Llundain yn y ‘de’, a Birmingham, Nottingham a Hull yn y ‘gogledd’.Mae'r rhwyg rhwng gogledd a de’r DU yn gwahanu Caerloyw, Caerlŷr, Lincoln a Llundain yn y ‘de’, a Birmingham, Nottingham a Hull yn y ‘gogledd’

Mae Centre for Cities yn elusen sy’n mesur newid a thwf economaidd yn 64 o ddinasoedd y DU. Yn 2015, fe wnaeth yr elusen ganfod am bob 12 o swyddi a gafodd eu creu yn ninasoedd y de ers 2004, dim ond un a gafodd ei chreu yn y dinasoedd eraill. Mae twf mawr wedi bod yn nifer y swyddi sydd ar gael mewn dinasoedd fel Llundain a Milton Keynes yn y de, ac mae gostyngiad mawr wedi bod mewn dinasoedd fel Blackpool a Hull yn y gogledd.

Beth sydd wedi achosi’r rhwyg rhwng gogledd a de’r DU

Mae llawer o bethau, sy’n gymhleth yn aml iawn, wedi achosi’r rhwyg rhwng gogledd a de’r DU.

Gwleidyddol

Yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, mae polisi’r llywodraeth wedi ceisio annog buddsoddiad mewn ardaloedd o’r DU y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr. Fodd bynnag, mae pencadlys llawer o gwmnïau mawr yn y de-ddwyrain, sy’n golygu ei bod yn haws gwneud penderfyniadau hanfodol yn y fan honno.

Cymdeithasol

Gyda dros 20 miliwn o bobl yn byw awr neu lai o Lundain, mae’n well gan fusnesau eu lleoli eu hunain yn nes at eu cwsmeriaid, ac o fewn pellter cymudo i'w staff. Mae llawer o brifysgolion y DU yn y de, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, sy’n darparu llawer o weithwyr y mae cyflogwyr yn eu hystyried fel y rhai mwyaf medrus a dymunol.

Economaidd

Gan ystyried bod y marchnadoedd mwyaf yn ne-ddwyrain Lloegr, sydd hefyd â mynediad da i farchnadoedd Ewrop, mae gan gwmnïau’r potensial i gael yr elw mwyaf posibl drwy eu lleoli eu hunain yn y de.

Strategaethau i ddatrys anghydfod rhwng rhanbarthau

Mae datrys anghydfod rhwng rhanbarthau yn dasg anodd. Mae’r llywodraeth wedi cytuno ar fesurau datganoli, sy’n rhoi mwy o bŵer ac arian i gynghorau yng ngogledd Lloegr. Enghraifft o hyn yw bod maer wedi cael ei ethol ar gyfer Manceinion Fwyaf a’i fod wedi cael £1 biliwn o gyllid wedi'i ddatganoli i wario ar wella seilwaith y ddinas er mwyn denu busnesau newydd. Mae hyn yn golygu y bydd llai o benderfyniadau am y ddinas yn cael eu gwneud yn Llundain, a mwy yn cael eu gwneud gan bobl Manceinion. Mae cynghorau lleol eraill yn galw am yr un rheolaeth.

Yng Nghymru, mae swm tebyg o arian wedi cael ei ddarparu i greu swyddi newydd ac i ddenu busnesau newydd i ymsefydlu yma. Er enghraifft, mae cwmni ceir Aston Martin wedi symud rhai o’i safleoedd cynhyrchu i safle sydd newydd gael ei adeiladu yn Sain Tathan yn ne Cymru. Gallai'r effeithiau lluosydd cadarnhaol arwain at gwmnïau eraill yn dod i leoliadau gerllaw. Bydd gweithfeydd newydd Aston Martin yn ne Cymru yn darparu 750 o swyddi sgiliau uchel.