Economïau ffurfiol ac anffurfiol

Mae economïau gwledydd incwm isel (LICs) yn wahanol iawn i economïau gwledydd incwm uchel (HICs). Mae’r map isod yn dangos dosbarthiad HICs a LICs y byd.

Map yn dangos sut mae gwledydd yn cael eu categoreiddio fel gwledydd incwm uchel (HIC) a gwledydd incwm isel (LIC).Sylwch faint o HICs sydd yng Ngogledd America a gogledd-orllewin Ewrop, yn ogystal â Seland Newydd ac Awstralia (Awstralasia)

Mewn HICs, mae gan lawer o bobl swyddi ffurfiol lle mae ganddyn nhw oriau penodedig, cyflog misol, amodau gwaith iach ac maen nhw’n talu trethi.

Marchnad brysur â merched yn gwerthu cynnyrch o stondinau dros dro.
Mae gwerthwyr stryd yn rhan o’r economi anffurfiol (neu lwyd)

Mewn LICs, mae gan rai pobl swyddi ffurfiol ond mae gan nifer fawr o weithwyr swyddi anffurfiol. Mae’r rhain fel arfer yn swyddi llafurus sydd ddim yn gofyn am sgiliau, does dim angen llawer o arian i’w sefydlu, dydy'r gweithwyr ddim yn cael eu diogelu a dydyn nhw ddim yn talu trethi. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys gwerthwyr ar y stryd, gyrwyr bysiau mini, newidwyr arian a masnachwyr mewn marchnadoedd. Mae'r swyddi hyn yn rhan o'r economi anffurfiol, sydd hefyd yn cael ei alw’n economi llwyd.

Astudiaeth achos: Kenya

Mae Kenya yn nwyrain Affrica, wrth Gefnfor India.

Mae Kenya ar y cyhydedd ar arfordir dwyreiniol Affrica, wrth Gefnfor India. Nairobi yw’r brifddinas. Mae gan y wlad boblogaeth o dros 46 miliwn (ffigurau 2016). Mae’n boblogaeth amrywiol iawn sy’n cynnwys dros 40 o grwpiau ethnig, gan gynnwys y Kikuyu, y Luo a'r Maasai.

Mae Kenya yn enghraifft o wlad incwm isel. Mae'r Incwm Gwladol Gros (GNI) yn $1,290 i bob person, o gymharu â $42,000 i bob person yn y DU. Mae’r disgwyliad oes yn 62 oed a’r gyfradd marwolaethau babanod yn 36 i bob 1,000. Mae 75 y cant o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig, mae’r rhan fwyaf yn ffermwyr ar raddfa fach a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw mewn tlodi.

Mae bwlch mawr rhwng incwm y bobl sy’n byw yn iseldiroedd y gogledd-ddwyrain (sy’n tueddu i ddioddef o sychder), y rhai sy’n byw ar yr ucheldiroedd yn y de-orllewin, y rhai sy’n byw ar y llain arfordirol a’r rheini sy’n byw mewn slymiau yn Nairobi.

Y llain arfordirol

  • Hinsawdd poeth a thrymaidd gydag awel oer o'r môr.
  • Porthladd pwysig Mombasa, sydd â chysylltiadau masnachu ar draws Cefnfor India.
  • Llawer o gyrchfannau i dwristiaid rhyngwladol fel Mombasa a Lamu.
  • Grwpiau ethnig Swahili a Mijikenda yw’r rhan fwyaf o’r boblogaeth.
  • Mae tair miliwn o bobl yn byw yn yr ardal hon, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw mewn tlodi.
  • Mae'r diwydiant pysgota yn bwysig ar hyd yr arfordir mewn pentrefi fel Kilifi.
  • Casafa ac india-corn yw’r prif fwydydd sy’n cael eu tyfu yn yr ardal.
  • Mae diffyg maethiad yn gyffredin.
  • Mynediad i'r ardal drwy’r maes awyr rhyngwladol.

Y de-orllewin

  • Ardal ar dir uchel gyda thymheredd oerach.
  • Glawiad dibynadwy gyda dau dymor glawog.
  • Pridd ffrwythlon i dyfu cnydau fel te, cofi, sisal a gwenith.
  • Mae’r rhan fwyaf o boblogaeth sefydlog Kenya yn byw yma.
  • Un o'r ardaloedd amaethyddol mwyaf llwyddiannus yn Affrica.
  • Mae gan Nairobi, y brifddinas, gysylltiadau rhyngwladol.
  • Caiff blodau eu tyfu fel cnwd pwysig sy’n dod ag arian.
  • Caiff sodiwm carbonad ei fwyngloddio ger Nairobi.

Y gogledd-ddwyrain

  • Mae bugeiliaid nomadaidd, fel y Maasai, yn byw yma gyda’u gwartheg.
  • Dydy tiroedd safana sy’n rhannol ddiffaith ddim yn addas ar gyfer amaethyddiaeth sefydlog.
  • Glawiad newidiol, llai na 250mm y flwyddyn.
  • Tlodi ac ansicrwydd bwyd yn ddifrifol.
  • Mae sychder rheolaidd yn cael effaith ddifrifol ar yr ardal.
  • Dioddef o ddiffeithdiro ac erydu pridd.
  • Sychder a llifogydd yn digwydd yn fwy aml ac yn fwy dwys yn ystod y degawd diwethaf. Cafwyd sychder difrifol yn 2010 ac yn 2011, ac roedd angen cymorth bwyd ar 4 miliwn o bobl.
  • Somaliaid ethnig sy’n byw yma’n bennaf, a nhw sydd wedi byw yma ar hyd y blynyddoedd.

Slymiau Nairobi

  • Mae 2.5 miliwn o bobl yn byw mewn slymiau, sef 60 y cant o boblogaeth Nairobi.
  • Kibera yw'r slym fwyaf yn Affrica, gyda 250,000 o bobl yn byw yno.
  • Mae 90 y cant o'r bobl yn byw mewn cytiau wedi’u hadeiladu ar dir nad ydyn nhw’n berchen arno.
  • Mae’r cartrefi yn fach iawn (12 troedfedd x 12 troedfedd) ac mae 8 neu fwy o bobl yn byw ynddyn nhw’n aml iawn.
  • Mae llawer o grwpiau llwythol o wahanol ardaloedd gwledig yn byw’n agos i’w gilydd – gall hyn achosi tensiynau yn aml.
  • Does gan 80 y cant o boblogaeth Kibera ddim trydan, a than 2017 doedd dim cyflenwad dŵr glân yno. Rhaid i bobl ddefnyddio dŵr budr o argae Nairobi, sy’n arwain at golera a theiffoid.
  • Yn 2015, cafodd dwy bibell ddŵr eu darparu i’r slym gan y cyngor dinesig a Banc y Byd.
  • Does dim clinigau nac ysbytai; caiff cymorth meddygol ei ddarparu gan gyrff anllywodraethol (NGOs).
  • Mae lefel y diweithdra yn uchel (tua 50 y cant).
Adeiladau mewn cyflwr gwael â tho rhydlyd ac yn agos at ei gilydd.
Kibera, Nairobi