Effaith y Dirwasgiad ar yr Almaen

Ym mis Hydref 1929, achosodd Cwymp Wall Street ar farchnad stoc yr Unol Daleithiau ddirwasgiad economaidd byd-eang. Yn Ewrop, yr Almaen a ddioddefodd waethaf wrth i’r banciau Americanaidd alw holl fenthyciadau tramor i mewn ar fyr rybudd. Roedd y benthyciadau hyn, a gytunwyd dan Gynllun Dawes yn 1924, wedi bod yn sail i adferiad economaidd Weimar o drychineb gorchwyddiant. Roedd y benthyciadau wedi ariannu diwydiant yr Almaen ac wedi helpu talu iawndaliadau. Heb y benthyciadau hyn, aeth diwydiant yr Almaen i’r wal a chafwyd dirwasgiad.

Siart llif o achosion ac effeithiau’r dirwasgiad yn yr Almaen.

Canlyniad amlycaf y cwymp hwn oedd cynnydd aruthrol mewn diweithdra. Dros aeaf 1929-30 cododd nifer y di-waith o 1.4 miliwn i dros 2 filiwn. Erbyn i Hitler ddod yn Ganghellor yn Ionawr 1933 roedd un o bob tri Almaenwr yn ddi-waith, wrth i’r ffigwr gyrraedd 6.1 miliwn. Roedd cynhyrchiant diwydiannol wedi mwy na haneru hefyd dros yr un cyfnod.

Effaith diweithdra

  • Gyda’r cynnydd mewn diweithdra gwelwyd cynnydd sylweddol yng ngwariant y llywodraeth ar yswiriant diweithdra a budd-daliadau eraill.
  • Dechreuodd Almaenwyr golli ffydd mewn democratiaeth a throi at bleidiau eithafol ar y Chwith (y comiwnyddion) a’r Dde (y Natsïaid) am atebion cyflym a syml.

Methiant gwleidyddol

Ym mis Mawrth 1930, ymddiswyddodd Canghellor yr Almaen, Hermann Müller, pan fethodd ei lywodraeth â chytuno ar sut i ddelio â’r cynnydd yng ngwariant y llywodraeth yn sgil y cynnydd mewn diweithdra. Penodwyd Heinrich Brüning yn ei le. Roedd ei bolisïau i ddelio â’r argyfwng diweithdra yn aneffeithiol, gan danseilio ffydd Almaenwyr mewn democratiaeth ymhellach.

  • Ym mis Gorffennaf 1930, cwtogodd y Canghellor Brüning wariant y llywodraeth, cyflogau a thâl diweithdra. Ychwanegodd hyn at y dirywiad graddol wrth i ddiweithdra barhau i godi, yn ogystal â gwneud y rhai a oedd wedi colli’u swyddi’n dlotach fyth.
  • Ond ni allai Brüning gael y Reichstag i gytuno iddo weithredu yn y modd yma, felly defnyddiodd yr Arlywydd Hindenburg Erthygl 48 cyfansoddiad Weimar, a roddai’r grym i’r Arlywydd basio deddfau trwy archddyfarniad, er mwyn llywodraethu. Effaith hyn oedd tanseilio democratiaeth a gwanhau grym y Reichstag – gan agor y ffordd, gellid dadlau, i unbennaeth Hitler yn ddiweddarach.

Cynnydd eithafiaeth

Pan fydd pobl yn ddi-waith, yn newynog ac yn anobeithio, fel yr oedd miliynau yn yr Almaen rhwng 1930 ac 1933, byddant yn aml yn troi at bleidiau gwleidyddol eithafol sy’n cynnig atebion syml i’w problemau. Rhwng 1930 ac 1933 cafwyd cynnydd anferth yn y gefnogaeth i eithafwyr adain dde’r Natsïaid ac eithafwyr adain chwith y comiwnyddion.

Erbyn 1932 roedd pleidiau oedd wedi ymdynghedu i ddinistrio Gweriniaeth Weimar yn dal 319 o seddi allan o gyfanswm o 608 yn y Reichstag, gyda llawer o weithwyr yn troi at gomiwnyddiaeth. Ond y gwir enillwyr oedd y Natsïaid.