Mathemateg siawns ydy tebygolrwydd. Rhif ydy tebygolrwydd sy’n dweud wrthot ti pa mor debygol y mae rhywbeth o ddigwydd. Gallwn ni ysgrifennu tebygolrwydd ar ffurf ffracsiwn, degolyn neu ganran.
Os wyt ti’n taflu ceiniog, tebygolrwydd cael pen ydy \(\frac{1}{2}\) a thebygolrwydd cael cynffon ydy \(\frac{1}{2}\) hefyd.
\[{T(\text{pen})}~+~{T(\text{cynffon})}=\frac{1}{2}+\frac{1}{2}={1}\]
Os dewiswn ni lythyren ar hap o’r gair SYMS, mae’r tebygolrwydd o gael y llythyren S yn \(\frac{2}{4}\), y tebygolrwydd o gael y llythyren Y yn \(\frac{1}{4}\) a’r tebygolrwydd o gael y llythyren M yn \(\frac{1}{4}\).
\[{T(S)} + {T(Y)} + {T(M)} = \frac{2}{4} + \frac{1}{4}+ \frac{1}{4} = {1}\]
Y tebygolrwydd y bydda i’n hwyr i’r gwaith yfory ydy \(\frac{2}{9}\). Beth ydy’r tebygolrwydd na fydda i’n hwyr i’r gwaith?
Mae dau ganlyniad posib – bod yn hwyr a pheidio bod yn hwyr. Rhaid i gyfanswm tebygolrwydd y ddau ganlyniad adio i roi \({1}\), felly'r tebygolrwydd o beidio bod yn hwyr ydy \({1} - \frac{2}{9} = \frac{7}{9}\).