Cyfres o rifau sy’n dilyn rheol ydy patrwm rhif. Mae eilrifau ac odrifau, rhifau sgwâr, ciwb a thriongl, lluosrifau, yn ogystal â phatrymau rhif mewn diagramau, yn enghreifftiau o batrymau rhif.
Yn aml, os wyt ti am ddarganfod y rheol ar gyfer patrwm rhif mewn diagram, bydd angen i ti gyfrif siapiau. Eto, edrycha ar y ffordd mae’r patrwm yn tyfu o un term i’r nesaf.
Ar sail y patrymau rhif uchod, llunia batrwm \({4}\).
Ym mhatrwm \({4}\) mae \({3}\) teilsen borffor a \({9}\) teilsen las, felly \({12}\) teilsen i gyd.
Edrycha eto ar y patrymau rhif uchod. Ysgrifenna’r rheol a’r \({4}^{ydd}\) term ar gyfer:
a) teils porffor
b) teils glas
c) y teils i gyd
a) Y rheol ar gyfer patrwm rhif y teils porffor ydy 'adio \({1}\)' a’r \({4}^{ydd}\) term ydy \({3}\).
b) Y rheol ar gyfer patrwm rhif y teils glas ydy 'adio \({2}\)' a’r \({4}^{ydd}\) term ydy \({9}\).
c) Y rheol ar gyfer patrwm rhif y teils i gyd ydy 'adio \({3}\)' a’r \({4}^{ydd}\) term ydy \({12}\).