Cyfres o rifau sy’n dilyn rheol ydy patrwm rhif. Mae eilrifau ac odrifau, rhifau sgwâr, ciwb a thriongl, lluosrifau, yn ogystal â phatrymau rhif mewn diagramau, yn enghreifftiau o batrymau rhif.
Lluosrifau unrhyw rif ydy’r rhifau y mae'r rhif yn rhannu iddyn nhw’n union.
Er enghraifft, lluosrifau \({5}\) ydy \({5},~{10},~{15},~{20},~{25},~{30},....\)
Lluosrifau \({7}\) ydy \({7},~{14},~{21},~{28},~{35},~{42},....\)
Cofia: Mae lluosrifau fel tablau lluosi.
Felly, lluosrifau \({5}\) ydy \({5},~{10},~{15},~{20},....\)
Beth ydy pum lluosrif cyntaf \({11}\)?
\({11},~{22},~{33},~{44}\) a \({55}\)
Cofia mai’r rhif ei hun ydy’r lluosrif cyntaf bob tro.