Cyfres o rifau sy’n dilyn rheol ydy patrwm rhif. Mae eilrifau ac odrifau, rhifau sgwâr, ciwb a thriongl, lluosrifau, yn ogystal â phatrymau rhif mewn diagramau, yn enghreifftiau o batrymau rhif.
Mae rhifau ciwb yn cael eu creu drwy luosi rhif ag ef ei hun dair gwaith.
\({2}\) wedi ei giwbio ydy \({2}\times{2}\times{2} = {8}\)
\({3}\) wedi ei giwbio ydy \({3}\times{3}\times{3} = {27}\)
\({4}\) wedi ei giwbio ydy \({4}\times{4}\times{4} = {64}\)
Mae’n bosib cyfleu pob rhif ciwb fel ciwb wedi ei ffurfio o giwbiau uned.
Defnyddia dy gyfrifiannell i ganfod y chwe rhif ciwb nesaf (o \({5}\) ymlaen).
\[{125} = {5}\times{5}\times{5}\]
\({216} = {6}\times{6}\times{6},\) ayyb.
Felly dyma’r chwe rhif ciwb nesaf:
\({125},~{216},~{343},~{512},~{729}\) a \({1,000}\)