Cyfres o rifau sy’n dilyn rheol ydy patrwm rhif. Mae eilrifau ac odrifau, rhifau sgwâr, ciwb a thriongl, lluosrifau, yn ogystal â phatrymau rhif mewn diagramau, yn enghreifftiau o batrymau rhif.
Eilrif ydy unrhyw rif sy’n gallu cael ei rannu â \({2}\).
Dyma enghreifftiau o eilrifau: \({2},~{4},~{6},~{8},~{10},~{22},~{144}\) a \({2,020}\).
Os ydy rhif yn gorffen gyda digid sy’n eilrif, yna mae’n eilrif. Er enghraifft, mae \({1,023,458}\) yn eilrif, achos mae ei ddigid olaf (\({8}\)) yn eilrif.
Odrif ydy unrhyw rif na allwn ni ei rannu â \({2}\).
Dyma enghreifftiau o odrifau: \({1},~{3},~{5},~{7},~{9},~{35},~{177},~{2,435}\).
Os ydy rhif yn gorffen gyda digid sy’n odrif, yna mae’n odrif. Er enghraifft, mae \({3,702,443}\) yn odrif, achos mae ei ddigid olaf (\({3}\)) yn odrif.