Mae ardaloedd trefol yn tyfu’n gyflym. Maen nhw’n wynebu llawer o wahanol gyfleoedd a heriau. Mae cynllunio trefol yn bwysig er mwyn sicrhau cymaint ag sy’n bosibl o gyfleoedd a chyn lleied ag sy’n bosibl o heriau.
Mae India yn enghraifft o wlad newydd ei diwydianeiddio (NIC). Mae dinas Mumbai yn tyfu bob blwyddyn oherwydd dau brif ffactor:
Cynnydd naturiol yw’r twf yn y boblogaeth sy’n digwydd pan mae mwy o enedigaethau nag o farwolaethau. Mae gan Mumbai, sy’n gartref i dros 20 miliwn o bobl, gyfradd ffrwythlondeb o tua dau blentyn i bob menyw. Oherwydd hyn mae poblogaeth Mumbai yn tyfu tua 5 y cant bob blwyddyn – mae hyn yn cyfateb i 1 miliwn yn rhagor o bobl yn cael eu geni bob blwyddyn.
Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn symud i ddinas Mumbai o ardaloedd gwledig. Mae pobl yn symud i Mumbai oherwydd bod gan y ddinas lawer o ffactorau tynnu. Mae pobl yn meddwl y bydd y ddinas yn darparu llawer o gyfleoedd, er enghraifft:
Mae pobl sy’n symud yn meddwl y bydd ansawdd eu bywydau yn well. Er hyn, mae dinasoedd fel Mumbai yn wynebu llawer o heriau, ac nid yw ansawdd bywyd y bobl sy’n byw yno yn well bob amser. Mae’r heriau y gallent eu hwynebu’n cynnwys y canlynol:
Yn ychwanegol at hyn, mae gwledydd yn cael eu categoreiddio fel gwledydd incwm uchel (HIC) a gwledydd incwm isel (LIC). Mae map sy'n dangos lleoliad y gwledydd hyn i’w weld isod.