Mae gan bob graff echelin x ac echelin y. Defnyddir cyfesurynnau, a ysgrifennir fel dau rif, i roi safleoedd ar graff. Mae’r echelin x yn llorweddol a’r echelin y yn fertigol.
Wrth ddisgrifio cyfesurynnau, dylet ti bob amser rifo o’r tarddbwynt.
Er enghraifft, i ddisgrifio safle pwynt A, dechreua o’r tarddbwynt a symud dau sgwâr i’r cyfeiriad llorweddol (\({x}\)). Wedyn symuda dri sgwâr i’r cyfeiriad fertigol (\({y}\)).
Felly cyfesurynnau pwynt \({A}\) ydy \(({2},~{3})\).
Yn yr un modd, i gyrraedd pwynt \({B}\) rhaid mynd \({8}\) ar draws a \({9}\) i fyny. Felly cyfesurynnau pwynt \({B}\) ydy \(({8},~{9})\).