Mae gan bob graff echelin x ac echelin y. Defnyddir cyfesurynnau, a ysgrifennir fel dau rif, i roi safleoedd ar graff. Mae’r echelin x yn llorweddol a’r echelin y yn fertigol.
Mae gan bob graff echelin \({x}\) ac echelin \({y}\). Dyma ddiagram o set o echelinau nodweddiadol.
Mae’r cyfesurynnau yn cael eu hysgrifennu fel dau rif, wedi eu gwahanu gan atalnod a’u cynnwys o fewn cromfachau. Er enghraifft \(({2},~{3})\), \(({5},~{7})\) a \(({4},~{4})\).