Id-ul-Fitr

Id-ul-Fitr yw’r ŵyl bwysicaf yn y calendr Islamaidd a chafodd ei sefydlu gan y Proffwyd Muhammad ei hun. Mae hefyd yn cael ei galw’n 'Ŵyl Torri’r Ympryd' ac mae’n cael ei dathlu gan Fwslimiaid ym mhob rhan o’r byd i nodi diwedd Ramadan. Mae Id-ul-Fitr yn cael ei chynnal ar ddiwrnod cyntaf degfed mis y calendr lleuad Islamaidd, a dydy Mwslimiaid ddim yn cael ymprydio ar y diwrnod hwnnw. Mae Mwslimiaid yn ymprydio am fis cyfan yn ystod mis Ramadan.

Mae Mwslimiaid yn dathlu diwedd yr ympryd, a hefyd yn diolch i Allah am y Qur'an, gafodd ei ddatgelu am y tro cyntaf tua diwedd Ramadan. Maen nhw hefyd yn diolch am y nerth mae Allah wedi’i roi iddyn nhw i ymarfer hunanreolaeth drwy gydol y mis blaenorol o ymprydio. Os oes angen, byddan nhw’n gofyn i Allah am faddeuant os ydyn nhw wedi methu cadw at yr ympryd ar unrhyw adeg.

Mewn gwledydd Mwslimaidd, mae Id-ul-Fitr yn ŵyl genedlaethol. Yn y Deyrnas Unedig, bydd rhai Mwslimiaid yn cymryd diwrnod o’r gwaith neu o’r ysgol i ymuno yn y dathliadau. Mae’r ŵyl yn cael ei dathlu yn y ffyrdd canlynol:

  • Mae diwrnod yr ŵyl yn dechrau pan mae’r lleuad newydd yn cael ei gweld am y tro cyntaf ar ddechrau degfed mis y calendr Islamaidd.
  • Mae Mwslimiaid yn gwisgo’u dillad gorau, yn addurno eu cartrefi ac yn treulio amser yn dathlu gyda’u ffrindiau a’u teulu.
  • Bydd rhai Mwslimiaid yn rhoi arian i’r tlawd er mwyn i bobl dlawd allu mwynhau’r diwrnod hefyd.
  • Mae gwasanaethau dathlu cymunedol yn cael eu cynnal yn yr awyr agored ac mewn mosgiau. Mae pobl yn gorymdeithio drwy’r strydoedd ac yn bwyta pryd arbennig o fwyd i ddathlu – y pryd bwyd cyntaf bydd Mwslimiaid wedi’i fwyta yn ystod oriau’r dydd ers mis.

Mae Id-ul-Fitr yn amser i deuluoedd, ffrindiau a chymdogion dreulio amser gyda’i gilydd a rhannu bwyd.

Siocled, teisennau a losin mewn dysglau ar fwrdd.
Mae bwyd Id-ul-Fitr fel arfer yn cynnwys pwdinau melys, hyd yn oed i frecwast

Dathlu yng Nghymru

Mae gŵyl Id-ul-Fitr yn cael ei dathlu mewn cymunedau Mwslimaidd ym mhob rhan o Gymru, ac mae dathliadau cymunedol yn cael eu cynnal mewn mosgiau lleol.

Bydd llawer o deuluoedd sydd ddim yn gallu mynd i fosg yn dod at ei gilydd yn eu cartrefi i fwynhau pryd o fwyd i’r teulu. Bydd rhai plant Mwslimaidd yn cymryd diwrnod i ffwrdd o’r ysgol i ddathlu’r ŵyl hon, a gall oedolion gymryd diwrnod i ffwrdd o’r gwaith.

Bydd llawer o fosgiau’n trefnu pryd o fwyd yn y gymuned leol er mwyn i bobl sydd ddim yn Fwslimiaid gael cymryd rhan yn y dathliad.

Yng Nghaerdydd, mae pryd o fwyd yn cael ei ddarparu i’r gymuned leol ac mae croeso i bawb ymuno yn yr ŵyl i dorri ympryd Ramadan. Mae croeso arbennig i ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, a phobl ddigartref.