Ystyr rhwydwaith yw nifer o gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd er mwyn iddyn nhw allu rhannu adnoddau. Fel arfer mae gweinydd yn darparu gwasanaethau fel lle i storio ffeiliau ac ebost. Mae’r rhyngrwyd yn cysylltu rhwydweithiau cyfrifiadurol â’i gilydd.
Er mwyn cysylltu â’r rhyngrwyd mae angen y canlynol:
Mae ISPs yn darparu mynediad i’r rhyngrwyd. Rhai o’r ISPs mwyaf cyffredin yw Sky, Virgin a BT, ond mae llawer mwy. Mae’r rhan fwyaf yn cynnig yr un pecyn sylfaenol o fynediad i’r rhyngrwyd, ebost cyfeiriadau a gofod gwe.
Mae angen porwr gwe er mwyn gweld tudalennau gwe. Y porwyr gwe sy’n cael eu defnyddio amlaf yw Internet Explorer a Firefox. Bydd gan bob porwr nifer o nodweddion tebyg sy’n dy helpu i ddefnyddio’r we, er enghraifft:
Bydd cysylltiad â’r rhyngrwyd naill ai’n analog neu’n ddigidol. Mae’n bwysig gwybod y gwahaniaeth rhwng y ddau a deall pa dechnolegau maen nhw’n eu defnyddio.