Ystyr rhwydwaith yw nifer o gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd er mwyn iddyn nhw allu rhannu adnoddau. Fel arfer mae gweinydd yn darparu gwasanaethau fel lle i storio ffeiliau ac ebost. Mae’r rhyngrwyd yn cysylltu rhwydweithiau cyfrifiadurol â’i gilydd.
System fyd-eang o rwydweithiau cyfrifiadurol rhyng-gysylltiedig yw’r rhyngrwyd. Pan fyddi di’n cysylltu dy gyfrifiadur di â’r rhyngrwyd drwy dy Ddarparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) byddi’n dod yn rhan o rwydwaith yr ISP.
Y We Fyd-eang (WWW neu’r 'we' yn fyr) yw’r rhan o’r rhyngrwyd y galli di gael mynediad ati drwy ddefnyddio porwr gwe, er enghraifft Internet Explorer neu Firefox. Mae’n cynnwys llawer iawn o weinyddion gwe sy’n lletya gwefannau. Fel arfer bydd pob gwefan yn cynnwys nifer o dudalennau gwe. Gall tudalen we gynnwys testun, delweddau, fideo, animeiddiad a sain.
Mae’n bosibl cael mynediad i wefan neu dudalen we drwy deipio URL (Lleolydd Adnoddau Unffurf (Uniform Resource Locator)) y wefan neu’r dudalen ym mar cyfeiriad y porwr. Enghraifft o URL yw http://www.bbc.co.uk.
Fel arfer bydd URL yn dilyn y fformat 'http' a pharth (er enghraifft .uk). Mae’r hyn sy’n mynd yn y canol yn amrywio, ond yn aml mae’n cynnwys y term "www", er enghraifft http://www.bbc.co.uk, ond does dim rhaid i hyn ddigwydd, er enghraifft http://news.bbc.co.uk).
Https yw’r fersiwn ddiogel o http. Pan fyddi di’n defnyddio https bydd unrhyw ddata y byddi di’n eu hanfon neu’n eu derbyn gan y gweinydd gwe wedi’u hamgryptio. Er enghraifft, pan fyddi di’n bancio ar-lein mae https yn cael ei ddefnyddio i gadw manylion dy gyfrif banc yn ddiogel.
Mae gan y rhan fwyaf o wefannau dudalen sy’n cysylltu’r defnyddiwr â phrif rannau eraill y wefan. Enw’r rhan hon o’r wefan yw’r dudalen gartref.
Mae tudalennau gwe’n cael eu cysylltu drwy gysylltau hyperdestun. Pan fyddi di’n clicio ar gyswllt byddi’n symud i dudalen arall a allai fod ar weinydd arall mewn unrhyw ran o’r byd.
Mae mewnrwyd yn rhwydwaith sy’n gweithio’n debyg i’r rhyngrwyd, ond ei fod ar gael o fewn sefydliad arbennig yn unig, nid i’r cyhoedd. Gallai mewnrwyd gynnwys tudalennau gwe i rannu data penodol am y cwmni o fewn y cwmni hwnnw, er enghraifft rhifau ffôn mewnol neu fanylion buddion gweithwyr.