Ystyr rhwydwaith yw nifer o gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd er mwyn iddyn nhw allu rhannu adnoddau. Fel arfer mae gweinydd yn darparu gwasanaethau fel lle i storio ffeiliau ac ebost. Mae’r rhyngrwyd yn cysylltu rhwydweithiau cyfrifiadurol â’i gilydd.
Mewn rhwydwaith cylch mae pob dyfais (gweithfan, gweinydd, argraffydd) wedi’i chysylltu â dwy ddyfais arall – mae hyn yn ffurfio cylch i’r signalau deithio o gwmpas. Mae pob pecyn o ddata ar y rhwydwaith yn teithio mewn un cyfeiriad, ac mae pob dyfais yn derbyn pob pecyn yn ei dro nes bydd y ddyfais gyrchfan yn ei dderbyn.
Gall y math hwn o rwydwaith drawsyrru data’n gyflym, hyd yn oed os oes nifer fawr o ddyfeisiau wedi’u cysylltu, gan mai dim ond i un cyfeiriad y mae’r data’n llifo, felly ni fydd data’n gwrthdaro. Yr anfantais fwyaf, fodd bynnag, yw y bydd y rhwydwaith cyfan yn methu os bydd y prif gebl yn methu neu os oes nam ar unrhyw ddyfais.