Ystyr rhwydwaith yw nifer o gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd er mwyn iddyn nhw allu rhannu adnoddau. Fel arfer mae gweinydd yn darparu gwasanaethau fel lle i storio ffeiliau ac ebost. Mae’r rhyngrwyd yn cysylltu rhwydweithiau cyfrifiadurol â’i gilydd.
Mewn rhwydwaith bws mae pob gweithfan, gweinydd ac argraffydd wedi’i gysylltu ag un cebl (y bws). Ym mhob pen i’r cebl mae terfynell wedi’i gosod er mwyn atal signalau rhag adlewyrchu’n ôl i lawr y bws.
Mantais rhwydwaith bws yw:
Anfanteision rhwydwaith bws yw: