Mewn algebra, gelli di ddefnyddio llythyren i gynrychioli rhif nad wyt ti’n ei wybod.Gallwn ni greu termau algebraidd, ee 2x a 5y a'u rhoi at ei gilydd i greu mynegiad algebraidd, ee 2x + 5y + 3z.
Pan roddir rhifau yn lle’r llythrennau mewn fformiwla, gelwir hynny’n amnewid.
Ar gyfer mesur amser, mae arwyneb y Ddaear wedi ei rannu’n \({24}\) rhan gyfartal o \({15}^\circ\), sef y cylchfâu amser, sy’n dechrau yn Greenwich, Llundain (Greenwich Mean Time - GMT). Wrth basio dros bob cylchfa tua’r dwyrain byddi di’n adio \({1}\) awr at GMT, ac wrth basio dros bob cylchfa tua’r gorllewin byddi di’n tynnu \({1}\) awr oddi wrth GMT.
Ar y sail hon, galwa’r amser yn Llundain yn \({g}\).
Y fformiwla ar gyfer canfod yr amser yn Bangkok, Gwlad Thai ydy \({g}+{7.00}\).
A’r fformiwla ar gyfer canfod yr amser yn Santiago, Chile, ydy \({g}-{4.00}\).
Mae’r fformiwlâu hyn yn caniatáu i ni amnewid \({g}\) am unrhyw amser yn Llundain i ganfod yr amser yn Bangkok neu Santiago.
Gan ddefnyddio’r fformiwla uchod, canfydda’r amser yn Bangkok pan mae’n \({14.00}\) yn Llundain.
Yr amser yn Bangkok = \({g}+{7.00}\).
Amnewidia’r \({14.00}\) am y \({g}\).
\[{g}+{7.00}={14.00}+{7.00}={21.00}\]
Felly am \({14.00}\) yn Llundain, yr amser yn Bangkok ydy \({21.00}\) o’r gloch.
Faint o’r gloch ydy hi yn Santiago, Chile, pan mae hi’n \({20.00}\) o’r gloch yn Llundain?
Y fformiwla ar gyfer canfod yr amser yn Santiago ydy \({g}-{4.00}\).
Pan fydd \({g}={20.00}\), \({g}-{4.00}={20.00}-{4.00}={16.00}\).
Felly am \({20.00}\) yn Llundain, yr amser yn Santiago ydy \({16.00}\) o’r gloch.
Dyma’r fformiwla ar gyfer trosi’r tymheredd mewn graddau Fahrenheit \((^\circ{F})\) i’r tymheredd mewn graddau Celsius \((^\circ{C})\).
\[{c}=\frac{{5}({f}-{32})}{9}\]
Mae \(f\) yn cynrychioli’r tymheredd mewn \(^\circ{F}\).
Mae’r fformiwla hon yn caniatáu i ti amnewid unrhyw dymheredd \(^\circ{F}\) yn lle \({f}\) i ganfod ei dymheredd cywerth mewn \(^\circ{C}\).
I ganfod y tymheredd mewn \(^\circ{C}\) pan mae’n \({68}^\circ{F}\), rho \({68}\) yn lle’r \({f}\) yn y fformiwla.
Pan fydd \({f} = {68}\),
\[{5}({f} - {32})\div{9}\]
\[= {5}({68} - {32})\div{9}\]
Cofia gyfrifo unrhyw gyfrifiad mewn cromfachau’n gyntaf: \(({68} - {32}) = {36}\).
Mae rhif nesaf at unrhyw beth mewn cromfachau’n golygu y dylid lluosi cynnwys y cromfachau, felly mae \({5}({36})\) yn golygu \({5}\times{36}:\)
\[{5}({36})\div{9}\]
\[= ({5}\times{36})\div{9}\]
\[= {180}\div{9} = {20}\]
Felly \({68}^\circ{F} = {20}^\circ{C}\)
Beth ydy’r tymheredd mewn \(^\circ{C}\) pan mae’n \({77}^\circ{F}\)?
Y tymheredd mewn graddau Fahrenheit ydy \({f}={77}\), felly'r tymheredd mewn graddau Celsius ydy \({c}=\frac{{5}({f}-{32})}{9}\)
\[\frac{{5}({77}-{32})}{9}=\frac{{5}\times{45}}{9} = {25}\]
\[{77}^\circ{F} = {25}^\circ{C}\]